Dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad yn Llanuwchllyn nos Iau
Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar gyrion y Bala nos Iau.
Derbyniodd yr heddlu alwad am 19:35 yn adrodd bod gwrthdrawiad rhwng dau gar wedi digwydd ar ffordd yr A494 yn Llanuwchllyn.
BMW 240i du a Mitsubishi L200 du oedd y ceir yn y ddamwain.
Bu farw gyrrwr y BMW yn y fan a’r lle.
Dioddefodd gyrrwr y Mitsubishi anafiadau difrifol ac fe gafodd ei gludo i Ysbyty Maelor yn Wrecsam mewn ambiwlans.
Mae’r Rhingyll Ditectif Liam Morris, o’r Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol wedi apelio am dystion.
Dywedodd: “Mae ein meddyliau gyda theulu’r dyn yn y cyfnod anodd hwn, a gyda phawb sydd wedi cael eu heffeithio gan y digwyddiad trychinebus hwn.
“Rydym yn gweithio i sefydlu’r amgylchiadau o amgylch y gwrthdrawiad, ac rydym yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai gynorthwyo ein hymchwiliad i ddod ymlaen.
“Rydym yn awyddus iawn i glywed gan unrhyw un a welodd y BMW yn cael ei yrru yn y cyfnod yn arwain at y gwrthdrawiad. Os oeddech yn teithio ar hyd yr A494 ger Llanuwchllyn neithiwr ac wedi gweld y cerbyd, neu os oes gennych ddeunydd fideo o gamera car a allai helpu gyda’n hymchwiliad, cysylltwch â ni.
“Gallai hyd yn oed gwybodaeth sy’n ymddangos yn ddibwys fod yn bwysig i’n hymchwiliad.”
Mae Heddlu'r Gogledd yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â swyddogion yn yr Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol drwy’r gwasanaeth sgwrsio ar-lein neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu’r rhif cyfeirnod 26000849235.