Dyn wedi marw a chwech wedi’u hanafu ar ôl i arwydd gwympo mewn gŵyl Gristnogol
Mae dyn 41 oed wedi marw ac mae o leiaf chwech o bobl eraill wedi’u hanafu ar ôl i arwydd mawr gwympo mewn gŵyl Gristnogol yn West Sussex, yn ne ddwyrain Lloegr.
Cafodd yr heddlu eu galw i safle'r Big Church Festival ger Steyning brynhawn Gwener.
Mae Heddlu Sussex yn dweud bod perthnasau agosaf y dyn wedi cael gwybod ac yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd Ditectif Richard McDonagh: "Mae hwn yn ddigwyddiad trasig, ac mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau’r dyn yn ystod y cyfnod hynod anodd hwn.
"Cafodd o leiaf chwech o bobl eraill eu hanafu hefyd yn ystod y digwyddiad hwn, ac maent wedi cael eu cludo i’r ysbyty i gael triniaeth."
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol toc ar ôl 17.30, dywedodd y trefnwyr wrth y rhai oedd yn bresennol bod sioe ddydd Gwener wedi’i chanslo a bod yn rhaid i ymwelwyr dydd "adael y safle nawr".
Yn ddiweddarach, dywedodd y trefnwyr eu bod wedi penderfynu canslo gweddill yr ŵyl, a oedd i fod i barhau tan ddydd Sul.
Mewn datganiad, dywedodd y trefnwyr: "Rydym wedi’n hysgwyd yn llwyr gan y digwyddiad difrifol a ddigwyddodd yn Big Church Festival 2026 heddiw, pan cwympodd arwydd, gan anafu o leiaf saith o bobl, ac yn anffodus, collodd un ohonynt ei fywyd.
"Yn anad dim, mae ein holl feddyliau gyda’r rhai sydd wedi’u heffeithio, eu teuluoedd a’u ffrindiau, a phawb a welodd beth ddigwyddodd.
"Yn dilyn digwyddiad heddiw, rydym wedi penderfynu dod â Big Church Festival 2026 i ben."
Arhosodd swyddogion ar y safle nos Wener wrth i’r heddlu barhau i annog pobl i osgoi’r ardal.
Cadarnhaodd Heddlu Sussex fod y digwyddiad wedi cael ei gyfeirio at yr Awdurdod Iechyd a Diogelwch ac i’r awdurdod lleol.
Llun: Facebook/Big Church Festival
