Dyn wedi ei arestio wedi honiadau o hiliaeth mewn gêm Abertawe

Ji-Sung Eom
Mae'r heddlu wedi arestio dyn mewn cysylltiad ag ymchwiliad i adroddiad o gamdriniaeth hiliol yn ystod gêm Bencampwriaeth rhwng Millwall ac Abertawe nos Fawrth.
 
Cafodd y gêm yn y Den ar 13 Hydref ei hatal am gyfnod yn yr ail hanner, wrth i'r dyfarnwr Edward Duckworth gynnal trafodaethau hir gyda staff hyfforddi'r ddau dîm.
 
Yn dilyn hynny, cafodd neges ei chwarae dros seinyddion y stadiwm yn rhybuddio yn erbyn unrhyw fath o hiliaeth, gan ychwanegu bod yr heddlu'n gweithio i adnabod unrhyw unigolion oedd yn gyfrifol drwy ddefnyddio lluniau teledu cylch cyfyng.
 
Yn ddiweddarach, honnodd prif hyfforddwr Abertawe, Vitor Matos, fod y sylwadau wedi'u cyfeirio at asgellwr rhyngwladol De Corea'r Elyrch, Eom Ji-sung.
 
Arestio 
 
Mewn datganiad, dywedodd Heddlu'r Met fod dyn 51 oed wedi ei arestio ddydd Mercher, 14 Hydref, mewn cyfeiriad yng Nghaint ar amheuaeth o aflonyddu hiliol bwriadol wedi'i waethygu gan hil, gan achosi braw neu ofid.
 
Ychwanegodd yr heddlu iddo gael ei gludo i orsaf heddlu yn ne Llundain cyn cael ei ryddhau ar fechnïaeth hyd ganol mis Ionawr tra bod yr ymchwiliad yn parhau.
 
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu'r Met: "Mae Gwasanaeth Heddlu Metropolitan Llundain yn cymryd pob adroddiad o gamdriniaeth wahaniaethol o ddifrif, a bydd yn gweithio gyda chlybiau pêl-droed a rhanddeiliaid perthnasol i ymchwilio i honiadau o'r fath."
 
Mewn datganiad, dywedodd Millwall fod yr honiad yn ymwneud ag "un digwyddiad unigol" yn ystod gêm y Bencampwriaeth rhwng y ddau glwb yn y Den nos Fawrth.
 
Ychwanegodd Millwall: "Mae'r clwb yn gweithredu polisi dim goddefgarwch tuag at unrhyw fath o gamdriniaeth wahaniaethol."
 
Dywedodd Matos ei fod yn drist fod y digwyddiad wedi digwydd, ond bod y garfan yn sefyll y tu ôl i'w cyd-chwaraewr.
 
"Gwnaeth Millwall y peth iawn drwy gyhoeddi nad oes lle i'r math yma o ymddygiad, ond yn drist iawn ei fod wedi digwydd. Nawr mae'n bwysig asesu'r sefyllfa a gweld beth fydd yn digwydd nesaf."
 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.