Dyn oedrannus wedi ei gyhuddo o drosedd anweddus honedig ar draeth ym Môn
Mae dyn oedrannus wedi cael ei arestio a'i gyhuddo o drosedd anweddus honedig ar draeth poblogaidd ym Môn.
Cafodd y dyn 81 oed ei gyhuddo o'r drosedd o sarhau gwedduster cyhoeddus ('outraging public decency') yn ardal y traeth yn Aberffraw.
Digwyddodd y digwyddiad brynhawn dydd Sadwrn meddai Heddlu Gogledd Cymru.
Mae pentref Aberffraw ar arfordir de orllewin Sir Fôn ac mae wedi ei leoli yng ngheg yr Afon Ffraw.
Bydd y dyn sydd wedi ei gyhuddo yn ymddangos yn y llys fis nesaf.
