Dyn mewn cyflwr difrifol wedi ymosodiad honedig yn Hwlffordd

Hwlffordd

Mae dyn yn ei 60au mewn cyflwr difrifol ond sefydlog yn yr ysbyty yn dilyn ymosodiad honedig yn Hwlffordd brynhawn dydd Gwener.

Cafodd Heddlu Dyfed-Powys wybod am y digwyddiad y tu allan i dafarn The William Owen ar Stryd y Cei tua 16.50.

Cafodd y dyn ei gludo i’r ysbyty mewn ambiwlans awyr, ac mae’n parhau yno mewn cyflwr difrifol ond sefydlog.

Mae dau ddyn, 37 a 41 oed, a dynes 37 oed wedi cael eu harestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol.

Mae’r tri yn parhau yn y ddalfa wrth i ymholiadau barhau.

Dywedodd yr heddlu y bydd patrolau ychwanegol amlwg yn cael eu cynnal yn yr ardal er mwyn rhoi sicrwydd i’r gymuned.

Mae gorchymyn gwasgaru hefyd yn parhau mewn grym yng nghanol tref Hwlffordd.

Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un a welodd y digwyddiad, neu sydd ag unrhyw wybodaeth allai helpu gyda’r ymchwiliad, i gysylltu â nhw.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.