Dyn lleol yn pledio'n euog i bysgota'n anghyfreithlon yn Harbwr Aberaeron
Mae dyn wedi pledio'n euog i bysgota'n anghyfreithlon yn Harbwr Aberaeron.
Fe wnaeth Callum Matthewson o Aberaeron ymddangos yn Llys Ynadon Aberystwyth ddydd Mercher wedi'i gyhuddo o ddefnyddio rhwyd anghyfreithlon i ddal pysgod yn Afon Aeron heb drwydded bysgota.
Plediodd yn euog ac fe gafodd ddedfryd o 10 diwrnod o adsefydliad cymunedol ac 85 awr o wasanaeth cymunedol, a gorchmynnwyd iddo dalu costau o £1000 i Gyfoeth Naturiol Cymru oedd yn cynnal yr erlyniad.
Rhaid iddo hefyd dalu gordal dioddefwr o £114.
Rhwyd
Cynhaliwyd yr ymchwiliad yn dilyn adroddiad dienw ar 24 Chwefror eleni bod rhwyd wedi'i gosod ar draws sianel afon Aeron.
Dywedodd Jeremy Goddard, Arweinydd Tîm Rheoleiddio a Gorfodi Gwastraff CNC: "Rydym yn croesawu'r ddedfryd llys hon, a'r ple euog, gan Mr Matthewson.
"Mae defnyddio rhwydi drysu yn anghyfreithlon. Gallant ddal rhywogaethau pysgod mudol, gan gynnwys eog a brithyll y môr, a gallant hefyd beri risg i fywyd gwyllt eraill.
"Nid oes unrhyw drwydded ar gael sy’n awdurdodi cymryd eogiaid neu frithyllod y môr gan ddefnyddio’r dull hwn yn Afon Aeron, nac unrhyw afon arall yng Nghymru.
"Mae pysgota anghyfreithlon yn peri risg i stociau pysgod dan fygythiad, ac yn tanseilio'r mesurau a roddwyd ar waith i amddiffyn afonydd ac aberoedd Cymru."
Rhaff wedi ei chlymu
Fe wnaeth Swyddogion Gorfodi Pysgodfeydd Cyfoeth Naturiol Cymru ymweld â'r harbwr ar 24 Chwefror, a dod o hyd i raff wedi ei chlymu i bostyn metel ar wal yr harbwr sy'n arwain i'r dŵr.
Am tua 01:00 ar 25 Chwefror, fe welwyd dyn yn agosáu at leoliad y rhwyd a dechreuodd ei thynnu o'r dŵr.
Pan gafodd ei herio gan swyddogion pysgodfeydd Cyfoeth Naturiol Cymru, rhedodd y dyn o'r lleoliad, cyn cael ei stopio gan swyddog arall.
Cafodd ei adnabod fel Mr Matthewson.
Cipiodd swyddogion CNC y rhwyd, a oedd tua 25 metr o hyd ac yn gallu ymestyn ar draws lled sianel afon Aeron.
Cafodd dwy leden fyw eu codi o'r rhwyd a'u dychwelyd i'r dŵr.
