Dyn ifanc o'r gogledd sy'n seiclo i Wlad Thai yn yr ysbyty yn Tsieina

westheads.jpg

Mae dyn ifanc o ardal Wrecsam sy'n un o dri sydd ar daith o Langollen i Wlad Thai ar gefn beic wedi bod mewn damwain ac yn yr ysbyty. 

Pwrpas taith Dyfan Hughes,  James Thomas a Louis Dennis yw codi arian er cof am dad eu ffrind Harrison, a fu farw o broblemau gyda’i galon.

Ers cychwyn ar y daith ym mis Awst y llynedd, maen nhw wedi teithio drwy nifer o wledydd Ewrop.

Fe wnaeth y tri gyrraedd Tsieina ddechrau Mehefin ar ôl teithio drwy ganol Asia, gan gynnwys Uzbekistan, Tajikistan a Kyrgyzstan.

Maen nhw'n parhau yn y wlad ar hyn o bryd.

Mewn datganiad, fe ddywedodd y criw ar y cyfryngau cymdeithasol: "Doeddem ni ddim yn disgwyl gwneud y post yma. 

"Mae Dyfan wedi bod mewn damwain ac rydym ni ar hyn o bryd yn yr ysbyty. 

"Mae ganddo anaf i'w ben, ei wddf a'i goes ond mae'n sefydlog ac yn un o'r llefydd gorau yn y byd ar gyfer y math yma o ddamwain er mwyn iddo wella.

"Dydyn ni ddim yn gwybod beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer y daith ar hyn o bryd, ond mae un peth yn sicr, rydym ni am aros gyda'n gilydd, a phan y byddwn ni'n cyrraedd Chiang Mai, Gwlad Thai, fe fydd y tri ohonom ni gyda'n gilydd does dim ots pa mor hir y bydd yn ei gymryd. 

"Fe fyddwn ni'n rhoi diweddariadau dros y dyddiau nesaf."

Y gobaith oedd cyrraedd Gwlad Thai yn y misoedd nesaf.

Maen nhw hyd yma wedi codi dros £47,000 ar gyfer elusen y British Heart Foundation ers dechrau eu taith ar 2 Awst y llynedd. 

Ers gadael y llynedd, maen nhw wedi seiclo drwy 18 o wledydd, dau gyfandir a dros 15,000km.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.