Dyn yn gwadu llofruddio myfyriwr 21 oed o Gymru ger Bryste
Mae dyn wedi gwadu llofruddio myfyriwr 21 oed o Abertawe mewn tref ger Bryste.
Fe wnaeth Zack Coughlan, 23 oed, ymddangos yn Llys y Goron Bryste i wynebu cyhuddiad o lofruddio Jamie Collins, 21 oed ym mis Ebrill eleni.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardd gefn tŷ yr oedd y ddau yn ei rannu ar Ffordd Cleve yn Filton, De Sir Gaerloyw, yn ystod oriau mân 9 Ebrill.
Daeth swyddogion o hyd i Mr Collins, a oedd yn astudio roboteg ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr, gydag anafiadau difrifol, a bu farw yn y fan a'r lle.
Ddydd Gwener, plediodd Coughlan yn ddieuog i'r cyhuddiad o lofruddiaeth.
Dywedodd y Barnwr Julian Lambert wrth y llys: "Mae dyddiad yr achos eisoes wedi'i bennu, sef 12 Hydref."
Clywodd y llys bod disgwyl i'r achos bara rhwng dwy a thair wythnos.
Mae Coughlan yn cael ei gadw yn y ddalfa tan ei ymddangosiad nesaf yn y llys ar 25 Medi.
'Dyn ifanc disglair'
Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd teulu Mr Collins "nad oes geiriau i ddisgrifio sut yr ydyn ni'n teimlo".
"Roedd Jamie yn ddyn ifanc disglair, caredig, addfwyn a diymhongar gyda'i fywyd cyfan o'i flaen," meddai ei deulu.
"Roedd yn edrych ymlaen at gwblhau ei daith yn y brifysgol ac yn bwriadu dod adref atom ni yn Abertawe ymhen ychydig wythnosau yn unig.
"Roedden ni'n gwybod ei fod ar fin cael dyfodol llwyddiannus iawn yn dilyn ei radd mewn peirianneg a roboteg."
Dywedodd Prifysgol Gorllewin Lloegr eu bod wedi'u "syfrdanu'n fawr" gan ei farwolaeth.
"Yn ogystal ag astudio roboteg, roedd Jamie yn aelod gweithgar o gymdeithasau myfyrwyr Prifysgol Gorllewin Lloegr," meddai.
"Bydd y brifysgol yn darparu cymorth i'r myfyrwyr a fu'n astudio gyda Jamie ac i'r staff sydd wedi'u heffeithio'n uniongyrchol gan ei farwolaeth."
