Dyn yn gwadu llofruddio cyd-fyfyriwr o Abertawe mewn tŷ ar gyrion Bryste

Jamie Collins

Mae llys ym Mryste wedi clywed bod myfyriwr prifysgol wedi cyfaddef i ddynladdiad dyn o Abertawe oedd ar yr un cwrs prifysgol ag o, ond yn gwadu ei lofruddio.

Mae Zack Coughlan, 23 oed, wedi ei gyhuddo o lofruddio Jamie Collins, 21 oed, yng ngardd eu cartref yn Filton, ar gyrion Bryste.

Clywodd Llys y Goron Bryste fod Coughlan wedi gwisgo dillad du, mwgwd a menig i ymosod ar Mr Collins yn ddirybudd wrth i’r myfyriwr roboteg ddychwelyd o Brifysgol Gorllewin Lloegr (UWE) ym Mryste ychydig cyn 18:00 ar 8 Ebrill.

Fe gafodd Mr Collins ei drywanu 30 o weithiau yn ystod y digwyddiad, a bu farw o’i anafiadau.

Mae’r rheithgor wedi clywed bod Coughlan yn cyfaddef mai ef oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad, ond yn dweud ei fod wedi colli rheolaeth arno’i hun ar y pryd.

Clywodd y llys fod Coughlan wedi prynu’r tŷ ar Ffordd Cleve yn Filton, a’i fod yn byw yno gyda Mr Collins a myfyriwr arall, Charlie Latimer.

Cyfweliad heddlu

Ddydd Mercher, cafodd fideo o gyfweliad a roddodd Mr Latimer i’r heddlu ar 9 Ebrill ei chwarae i’r llys.

Deffrodd Mr Latimer tua 01:00 y bore ar ôl yr ymosodiad honedig ac nid oedd yn gallu mynd yn ôl i gysgu. Yna clywodd sŵn gan Coughlan tua 02:00.

Ar ôl hynny, clywodd “gnocio eithaf uchel” ar y drws, a thybiodd mai Coughlan oedd yno yn ceisio ei ddeffro.

“Fe gyrhaeddais i’r gegin,” meddai Mr Latimer.

“Fe agorais i’r drws cefn ac roeddwn i’n gallu gweld pobl yn y cefn. Yr heddlu oedd yno.

“Roeddwn i’n gallu gweld corff ar y llawr a rhyw dri neu bedwar o bobl o’i gwmpas. Fe ddywedon nhw wrtha i am sefyll yn ôl.”

Yn y cyfweliad, dywedodd Mr Latimer ei fod wedi edrych ar Coughlan, gan ddweud: “Roeddwn i’n gallu gweld ei fod wedi cael sioc aruthrol.”

Dywedodd Mr Latimer fod y tri ffrind ar yr un cwrs roboteg. 

Roedden nhw’n treulio amser gyda’i gilydd yn siopa, yn coginio i’w gilydd, yn cynnal nosweithiau gemau bwrdd a ffilmiau, ac yn chwarae gemau fideo.

Dywedodd Mr Latimer fod Mr Collins yn bwriadu symud allan o’r tŷ a dychwelyd i Gymru ar ôl gorffen ei astudiaethau.

Ddydd Mawrth, gwyliodd y rheithgor luniau teledu cylch cyfyng o’r digwyddiad angheuol, oedd wedi eu recordio gan gamera yn y tŷ oedd yn dechrau recordio wrth synhwyro symudiad. 

Fe welon nhw hefyd luniau o Coughlan yn cael gwared ar ddillad â staeniau gwaed arnyn nhw ar ôl yr ymosodiad.

Mae’r achos yn parhau.

Llun: Jamie Collins.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.