Dyn o Gapel Curig i wynebu achos o dreisio honedig newydd wedi i reithgor fethu â dod i ddyfarniad

Llys Caernarfon

Bydd achos newydd yn cael ei gynnal yn erbyn dyn o Sir Conwy sydd wedi’i gyhuddo o dreisio dynes mewn pabell yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ym Moduan yn 2023.

Wedi pum niwrnod yn Llys y Goron Caernarfon, daeth yr achos yn erbyn Emlyn Jones, 27 oed o Gapel Curig, i ben ddydd Gwener 12 Mehefin gyda'r rheithgor yn methu â dod i ddyfarniad.

Mewn gwrandawiad yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Gwener, fe wnaeth y bargyfreithiwr Siôn ap Mihangel, ar ran yr erlyniad, gadarnhau y byddai’r “Goron yn ceisio am achos newydd" yn dilyn adolygiad gan Wasanaeth Erlyn y Goron.

Roedd Mr Jones yn wynebu pedwar cyhuddiad, sef treisio, tagu bwriadol, ymosod drwy dreiddio (‘assault by penetration’) ac un achos o ymosod yn rhywiol.

Roedd yn gwadu'r holl gyhuddiadau yn ei erbyn.

Dywedodd y Barnwr Nicola Jones y bydd yr achos yn cael ei gynnal yn Llys y Goron Caernarfon. Nid oes dyddiad wedi’i osod ar hyn o bryd.
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.