Dyn o Gaerdydd yn pledio'n euog i achosi marwolaeth cyd-deithiwr mewn gwrthdrawiad ar yr M4
Mae dyn o Gaerdydd wedi pledio'n euog i achosi marwolaeth cyd-deithiwr drwy yrru'n beryglus, ac anafu dau arall oedd yn ei gar mewn gwrthdrawiad ar draffordd yr M4 yn Llundain.
Roedd disgwyl i Aadil Sabir, 31 oed, wynebu achos yn yr Old Bailey ddydd Mawrth, yn dilyn y gwrthdrawiad yng Ngorllewin Llundain ar 29 Hydref 2023.
Ddydd Iau, plediodd Mr Sabir yn euog i achosi marwolaeth William Bailey drwy yrru'n beryglus, ac i achosi anafiadau difrifol i Azfur Khan a Hamad Zaman - y tri arall oedd yn ei gerbyd.
Cafodd yr heddlu eu galw am 11:39 ar ddiwrnod y gwrthdrawiad i adroddiadau am gar oedd wedi troi drosodd ar yr M4 yn agos at Gyfnewidfa Parc Cranford.
Daeth y gwasanaethau brys o hyd i bedwar unigolyn ag anafiadau, gyda'r pedwar wedi bod yn teithio yng nghar Mercedes y diffynnydd, yn ôl yr heddlu.
Bu farw Mr Bailey, oedd yn ei ugeiniau, yn y fan a'r lle.
Cafodd dau ddyn arall yn eu hugeiniau eu cludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol, ac fe gafodd y pedwerydd ei drin yn y fan a'r lle cyn cael ei symud i'r ysbyty.
Plediodd Mr Sabir yn euog drwy gyswllt fideo o Gymru.