Andy Burnham yn agored i drafod rhoi pwerau datganoli heddlua i Lywodraeth Cymru
Andy Burnham yn agored i drafod rhoi pwerau datganoli heddlua i Lywodraeth Cymru
Mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig Andy Burnham wedi dweud ei fod yn agored i drafod y posibilrwydd o ddatganoli heddlua gyda Llywodraeth Cymru.
Daw hyn yn dilyn ymweliad Mr Burnham â de Cymru i gyfarfod gweithwyr a phrentisiaid.
Tra bod llywodraethau'r Alban a Gogledd Iwerddon yn gyfrifol am eu plismona eu hunain, caiff plismona yng Nghymru ei oruchwylio gan Lywodraeth San Steffan, ac felly byddai'n newid o ystyried cafodd y syniad yng Nghymru ei wrthod gan Lywodraeth y DU yn y gorffennol.
Wrth ymweld â Phort Talbot, dywedodd Mr Burnham: "Rwy'n holl grediniol mewn datganoli ac rwy'n barod i gydweithio i edrych ar sut y gallwn ei ddatblygu.
"'Dw i'n ymwybodol o'r pryderon yn sgîl y Fformiwla Barnett sydd i'w gael yma yng Nghymru - mae'n rhaid i mi fod yn onest - ni allaf addo y bydd camau'n cael eu cymryd i'w adolygu.
"Ond gallaf addo i edrych ymhellach ar ofynion Llywodraeth Cymru am ragor o bwerau datganoli, ac mae heddlua wedi cael ei godi o fewn hynny" medd y Prif Weinidog.
Cyfarfod ym mis Hydref
Ychwanegodd Mr Burnham y bydd yn trafod y syniad o ledaenu pwerau o fewn Cymru a'r Alban ymhellach pan fydd yn dod â phenaethiaid llywodraethau datganoledig y DU ynghyd yng Nghymru ym mis Hydref:
"Efallai bod dadl i'w chael ynghylch cryfhau datganoli, fel bod rhagor o bwerau i'w cael yn ninasoedd a rhanbarthau Cymru, gogledd Cymru'n gweithio fwy gyda'r gogledd-orllewin, neu ganolbarth Cymru yn fwy â gorllewin canolbarth Lloegr, yn debyg i'r math o ddatganoli sy'n datblygu'n gyflym ledled Lloegr ar hyn o bryd.
"Dw i'n agored i drafodaethau gyda Llywodraeth Plaid Cymru yn y Senedd, ac rwyf wedi galw am gyfarfod Cyngor Economaidd Cenedlaethol gyda'r cenhedloedd datganoldeig ym mis Hydref i drafod yn union hynny."
Ystâd y Goron
Fe wynebodd Mr Burnham hefyd gwestiynau am alwadau Llywodraeth Cymru am ragor o bwerau datganoli Ystâd y Goron, sy'n gweinyddu daliadau'r Frenhiniaeth, yn ogystal â'r gwelyau môr lle caiff ffermydd gwynt alltraeth eu lleoli.
Mae Llywodraeth newydd Cymru hefyd wedi gofyn i gydbwyso rhai pwerau gyda'r Alban.
Yn ystod ei ymweliad â thref ddur Port Talbot, dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn "anfon arwydd cryf o gefnogaeth" ar gyfer ail-ddiwydiannu Cymru.
Yno fe addawodd hefyd i gyflawni'r ymrwymiad a wnaed gan y cyn-Brif Weinidog Syr Keir Starmer i wario £14 biliwn ar uwchraddio'r rheilffyrdd yng Nghymru.
Dywedodd Mr Burnham: "Daw twf pan fydd seilwaith dda - ond hebddo, yn aml rydych yn gwneud y dasg o dwf yn llawer anoddach.
"Mae paratoi Cymru at y dyfodol yn gofyn i gyflawni'r addewid hwnnw o £14 biliwn, a dyna a wneir."