Dyn oedd ar ffo rhag yr FBI yn Nyffryn Conwy i ildio ei gyfrifon banc
Mae dyn oedd ar ffo rhag yr FBI yn America cyn cael ei ddarganfod Nyffryn Conwy, wedi gorfod ildio mwy nag £20,000 o'i gyfrifon banc a oedd wedi eu rhewi.
Cafodd Daniel Andreas San Diego, 47 oed ei ddarganfod yn byw mewn man anghysbell ym Maenan ger Llanrwst yn Nhachwedd 2024, ar ôl i'r awdurdodau fod yn chwilio amdano ers 21 mlynedd.
Mae e ar hyn o bryd o dan glo yng ngharachar Belmarsh yn Llundain.
Yn wreiddiol roedd yn gwrthwynebu cais Heddlu Gogledd Cymru i ildio'r arian.
Ond mewn gwrandawiad llys yn Llandudno ddydd Mercher, dywedodd cyfreithiwr ar ran yr heddlu wrth y barnwr Anita Price nad oedd yn gwrthwynebu'r cais bellach.
Yn flaenorol, dywedodd ymchwilydd ariannol ar ran yr heddlu fod y cyfrifon yn enw Danny Webb. Mae hi wedi dod i'r amlwg bellach mai Daniel San Diego yw perchennog y cyfrifon.
Roedd tri chyfrif yn ei enw gyda'r cyfanswm yn fwy nag £20,000.
Mae'r FBI yn awyddus i'w holi am achosion honedig nôl yn 2003.
Ar 28 Awst 2003, ffrwydrodd dau fom o fewn awr i'w gilydd ar gampws sefydliad bio-dechnegol Chiron yn San Francisco, yn ôl yr FBI.
Yna ar 26 Medi, 2003, ffrwydrodd bom arall yng nghanolfan cynnyrch maeth Shaklee yn Pleasanton, California.
Cafodd Daniel San Diego ei gyhuddo o achosi difrod a bod â ffrwydron yn ei feddiant pan gafodd y troseddau honedig eu cyflawni.
Mae'r FBI wedi ei ddisgrifio fel "eithafwr dros hawliau anifeiliaid."
Ceisiodd ei gyfreithwyr frwydro yn erbyn cais i'w estraddodi, ond mewn gwrandawiad llys yn Llundain fis Chwefror, daeth penderfyniad i'w anfon yn ôl i'r Unol Daleithiau.
Daniel San Diego oedd y terfysgwr honedig cyntaf o America i'w roi ar restr yr FBI gyda $250,000 (£185,000) o wobr yn gyfnewid am wybodaeth amdano.
