Dyn ar fechnïaeth ar ôl i fachgen gael ei anafu mewn cawell crocodeil
Mae dyn a gafodd ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio ar ôl i fachgen tair oed gael ei anafu'n ddifrifol pan gafodd ei daflu i gawell crocodeiliaid wedi cael ei ryddhau gan nad yw'n ddigon iach i gael ei gyfweld, meddai'r heddlu.
Mae'r dyn 30 oed o Norfolk wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth tra bod ditectifs yn parhau i ymchwilio i'r digwyddiad, meddai Heddlu Sir Caergrawnt.
Cafodd swyddogion eu galw i sŵ Johnson's of Old Hurst yn ardal Huntingdonshire am 13.24 ddydd Iau yn dilyn "adroddiadau am ddigwyddiad yn ymwneud â bachgen tair oed, aeth i gawell crocodeiliaid".
Cafodd y bachgen, a gafodd ei dynnu allan o'r cawell gan staff y sŵ, ei gludo i Ysbyty Addenbrooke's yng Nghaergrawnt gydag anafiadau difrifol.
Ychwanegodd yr heddlu fod y bachgen mewn cyflwr critigol ond sefydlog.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Verity McCann: "Mae ein hymchwiliadau'n parhau wrth i ni geisio deall yr amgylchiadau a arweiniodd at y digwyddiad gofidus hwn.
"Mae ein meddyliau'n parhau gyda'r bachgen a'i deulu, ac mae swyddogion arbenigol yn parhau i'w cefnogi yn ystod y cyfnod anodd hwn."
Mae'r dyn 30 oed, nad yw'n adnabod y dioddefwr, wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth tan 18 Medi.