Dyn 60 oed yn gwadu achosi marwolaeth dynes oedrannus yn Llandudno

Daphne Stallard

Mae dyn 60 oed wedi gwadu achosi marwolaeth dynes oedrannus drwy yrru lori ailgylchu yn ddi-ofal yn Llandudno y llynedd. 

Bu farw Daphne Stallard yn dilyn gwrthdrawiad ar Stryd Brookes oddi ar Ffordd Caroline ar 1 Medi y llynedd.

Fe ymddangosodd Steven Aldred o Fae Colwyn yn Llys Ynadon Llandudno yn dilyn marwolaeth Ms Stallard.

Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth ac mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys y Goron Caernarfon ar 4 Ionawr. 

Mewn teyrnged yn dilyn marwolaeth Mrs Stallard, dywedodd ei phlant Mary, Andrew a John Stallard ei bod yn “olau disglair” oedd yn llawn cariad.

Roedd yn fam ac yn fam-gu a oedd bob tro yn "llawn balchder".

Cafodd ei disgrifio fel “dynes ffyddlon” oedd yn aelod o nifer o grwpiau cymunedol ac roedd hi'n treulio llawer o’i hamser yn "gofalu am bobl eraill."

“Roedd hi’n gofalu am bobl o bob oedran ac roedd hi’n mwynhau helpu’r plant bach yn Ysgol Sul yr eglwys yn fawr, yn ogystal ag ymweld â’r ‘henoed’ oedd yn aml iawn yn cynnwys y rheiny oedd yn llawer iau nag oedd hi!"

Ychwanegodd y teulu ei bod hi’n wirfoddolwraig “weithgar” yn yr eglwys a hithau wedi bod yn briod i’r Parchedig Charles Stallard, a fu farw bum mlynedd yn ôl. 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.