Dyn 20 oed wedi marw ar ôl mynd i drafferthion yn Llyn Glaslyn ger yr Wyddfa

Llyn Glaslyn

Mae dyn 20 oed o Lundain wedi marw ar ôl mynd i drafferthion yn Llyn Glaslyn yn Eryri dros y penwythnos.

Cafodd corff Mahammed Maim Islan ei godi o’r llyn ddydd Sul.

Ychydig cyn 19:00 nos Sadwrn, derbyniodd Heddlu Gogledd Cymru adroddiad bod dyn wedi mynd i drafferthion yn y llyn a’i fod ar goll.

Roedd y gwasanaethau brys yn bresennol ynghyd ag aelodau o Dîm Achub Mynydd Llanberis, a dechreuodd y gwaith chwilio yn yr ardal.

Ailddechreuodd y chwilio fore Sul, gyda’r Tîm Chwilio Tanddwr hefyd yn rhan o’r ymdrech.

Ychydig cyn hanner dydd, cafodd corff dyn ei ddarganfod a’i godi o’r llyn.

Dywedodd Prif Arolygydd Steve Pawson o Heddlu Gogledd Cymru: "Mae ein meddyliau hefo teulu a ffrindiau'r dyn ar yr adeg hynod o anodd hon.

"Mae'r Crwner wedi cael gwybod ac mae ymholiadau bellach ar y gweill.

"Hoffwn ddiolch i'r holl ymatebwyr brys a gwirfoddolwyr achub mynydd a ymatebodd i'r digwyddiad hwn."

Mewn datganiad, dywedodd teulu Mahammed Maim Islan:

"Ar 26 Medi 2026, yn Llyn Glaslyn yn Eryri, collodd Mahammed Maim Islan, a anwyd ar 7 Ionawr 2006, ac a oedd yn dod o Lundain, ei fywyd yn drasig yn ddim ond 20 oed.

"Roedd Mahammed yn ddyn ifanc disglair a hynod hefo dyfodol addawol o'i flaen. Roedd yn fab annwyl, yn frawd cariadus, ac yn ffrind gwerthfawr. Gwnaeth ei garedigrwydd a'i gymeriad gyffwrdd â bywydau pawb a oedd yn ei adnabod.

"Mae ei farwolaeth annhymig wedi gadael ei deulu, ei ffrindiau, a'i gymuned ehangach yn drist iawn. Bydd yn cael ei gofio am y llawenydd a ddaeth i fywydau pobl eraill, yr atgofion a greodd, a'r effaith gadarnhaol a gafodd ar y rhai a oedd ddigon ffodus i groesi ei lwybr.

"Bydd Mahammed yn cael ei golli'n fawr ac yn cael ei gofio'n annwyl gan bawb oedd yn ei adnabod. Mae ein meddyliau a'n cydymdeimlad diffuant yn parhau hefo'i deulu a'i anwyliaid ar yr adeg hynod anodd hon.

"Hoffai'r teulu ddiolch i bawb a wnaeth ymwneud â chwilio a dod o hyd i Mahammed."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.