Dylai Andrew roi tystiolaeth i ymchwiliad Epstein meddai Hillary Clinton

Hillary Clinton ac Andrew Windsor

Mae Hillary Clinton wedi dweud y dylai Andrew Mountbatten-Windsor roi tystiolaeth mewn ymchwiliad yn yr Unol Daleithiau i’r pedoffeil Jeffrey Epstein.

Mae’r cyn-ysgrifennydd gwladol a’i gŵr, y cyn-arlywydd Bill Clinton, wedi cytuno i roi tystiolaeth i un o bwyllgorau cyngresol yr Unol Daleithiau fel rhan o’r ymchwiliad i Epstein.

Wrth gael ei holi gan y BBC a ddylai Andrew ymddangos gerbron y pwyllgor hefyd, dywedodd ei bod yn “credu y dylai pawb roi tystiolaeth sy’n cael cais i wneud hynny”.

Rhyddhaodd Adran Gyfiawnder yr Unol Daleithiau filiynau o ffeiliau yn ymwneud â’r ymchwiliad fis diwethaf.

Fe alwodd Mrs Clinton hefyd ar weinyddiaeth Trump i wneud yr holl ddogfennau sy’n weddill yn gyhoeddus.

“Maen nhw angen cael y ffeiliau allan,” meddai. “Maen nhw’n symud yn araf.”

Bydd Hillary Clinton yn ymddangos gerbron Pwyllgor Goruchwylio Tŷ’r Cynrychiolwyr ar 26 Chwefror, ddiwrnod cyn ei gŵr.

“Fe fyddwn ni’n ymddangos, ond rydyn ni’n meddwl y byddai’n well bod yn gyhoeddus yn hytrach na gwneud datganiad y tu ôl i ddrysau caeedig,” meddai.

“Does gennym ni ddim byd i’w guddio. Rydyn ni wedi galw am ryddhau’r ffeiliau hyn yn llawn dro ar ôl tro.

“Heulwen yw’r diheintydd gorau.”

Dywedodd y cyn-ysgrifennydd gwladol ei bod hi a Mr Clinton yn cael eu defnyddio er mwyn tynnu sylw oddi ar weinyddiaeth Donald Trump.

Wrth ymateb, dywedodd yr Arlywydd Donald Trump ar ei awyren Air Force One ei fod wedi’i “gael yn ddi-fai” (exonerated) a bod “Clinton a llawer o Ddemocratiaid eraill wedi cael eu tynnu i mewn” i’r ymchwiliad.

Fe gollodd Andrew ei deitl tywysog ym mis Hydref wedi honiadau ynglŷn â'i berthynas â Jeffrey Epstein. 

Dywedodd ar y pryd y byddai'n rhaid iddo symud o'r Royal Lodge, Windsor. Mae bellach wedi gadael ei gartref yno a symud i Stad Sandringham yn Norfolk.

Mae Andrew Mountbatten-Windsor wedi gwadu gwneud unrhywbeth o'i le yn y gorffennol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.