Dyfalu fod Syr Keir Starmer ar fin ymddiswyddo fel prif weinidog
Mae dyfalu fod Syr Keir Starmer ar fin ymddiswyddo fel prif weinidog.
Daw hyn wrth i Andy Burnham ddychwelyd fel AS i San Steffan ar ôl ennill isetholiad Makerfield wythnos diwethaf.
Bydd Mr Burnham yn tyngu llw fel aelod seneddol newydd yr etholaeth ym Manceinion yn ddiweddarach.
Mae disgwyl iddo hefyd bwyso ar Syr Keir i nodi ei gynlluniau i ymddiswyddo o'i swydd.
Y gred yw bod y prif weinidog wedi cael gwybod gan aelodau o'i Gabinet, gan gynnwys yr Ysgrifennydd Tramor Yvette Cooper, y dylai nodi amserlen ar gyfer ei ymadawiad.
Mae Starmer wedi treulio'r penwythnos yn ystyried ei ddyfodol gwleidyddol.
Dywedodd llefarydd ar ran 10 Downing Street fod safbwynt Syr Keir wedi aros yr un fath ers dydd Gwener. Dywedodd y diwrnod hwnnw na fyddai'n "cerdded i ffwrdd" o'i gyfrifoldebau ac y byddai'n sefyll mewn unrhyw gystadleuaeth bosibl.
Ond ni wnaeth y gweinidog Cabinet Peter Kyle dawelu'r dyfalu am ddyfodol Syr Keir a'r awgrym ei fod yn ystyried ymddiswyddo wrth iddo siarad gyda darlledwyr ddydd Sul.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Busnes fod y prif weinidog yn cymryd amser i "feddwl beth yw'r realiti gwleidyddol heddiw o'i gymharu â'r wythnos diwethaf, yr wythnos cynt".
Dywedodd: “Dydw i ddim yn gwybod y penderfyniadau y bydd yn eu gwneud ar ran ein gwlad”, ond y bydd “beth bynnag sy’n datblygu” yn y dyddiau nesaf yn “broses ffurfiol”.
Cyfnod pontio
Y gred yw bod Mr Burnham yn chwilio am gyfnod pontio o tua mis, a fyddai’n rhoi amser i Syr Keir weithredu ei Gynllun Buddsoddi Mewn Amddiffyn mewn pryd ar gyfer uwchgynhadledd NATO ym mis Gorffennaf.
Ond mae rhai o gefnogwyr Mr Burnham yn hapus i dderbyn amserlen fyddai'n gweld Syr Keir yn parhau yn Rhif 10 Downing Street tan fis Medi.
Mae cwestiynau wedi codi o fewn Llafur am sut y byddai'r broses o newid arweinydd yn digwydd - gyda rhai’n cefnogi cystadleuaeth am yr arweinyddiaeth ac eraill yn cefnogi trosglwyddo grym yn gyflym i Mr Burnham.
Dywedodd AS Canol Efrog, Rachael Maskell, ei bod hi’n credu mai'r peth gorau fyddai “pontio a throsglwyddo llyfn” dros y mis nesaf.
“Rwy’n credu ei fod yn cael ei gredu’n eang, hyd yn oed pe bai cystadleuaeth, y byddai Andy Burnham yn ennill honno gyda mwyafrif sylweddol, ac felly rwy’n cwestiynu pam mae angen i ni fynd trwy’r broses honno,” meddai wrth y Press Association.
Awgrymodd y Farwnes Harriet Harman y gallai’r Blaid Lafur Seneddol gymeradwyo Mr Burnham i roi rhywfaint o “gyfreithlondeb” iddo os nad oes ymgeiswyr eraill.
Codi amheuon wnaeth un AS Llafur arall ynglŷn ag a oes gan y cyn-ysgrifennydd iechyd Wes Streeting ddigon o gefnogaeth yn y ras, neu a fyddai’n gystadleuydd realistig yn erbyn Mr Burnham. Dywedodd yr AS wrth PA “nad oes pwynt cael cystadleuaeth os nad oes ail ymgeisydd”.
