Dŵr Cymru i wario £600m ar foderneiddio cyfleusterau trin dŵr yn y de
Mae Dŵr Cymru wedi cyflwyno ceisiadau cynllunio ar gyfer cynllun seilwaith gwerth £600 miliwn yn ne Cymru.
Hwn fydd y cynllun seilwaith mwyaf yn hanes y cwmni.
Bwriad Strategaeth Cyflenwi Dŵr Cwm Taf fydd "diogelu cyflenwadau dŵr dibynadwy ar gyfer cymunedau ar draws y de am ddegawdau i ddod".
Bydd yn moderneiddio cyfleusterau trin dŵr ac yn gwasanaethu cymunedau, gan gynnwys gwasanaethau fel ysbytai ac ysgolion, ym Merthyr Tudful, y trefi cyfagos a rhannau o Gaerdydd.
Yn gynharach eleni, fe wnaeth Ofwat, rheoleiddiwr y diwydiant dŵr, gyhoeddi pecyn gorfodi gwerth £44.7m ar Dŵr Cymru, ar ôl darganfod fod y cwmni wedi torri ei ddyletswyddau cyfreithiol wrth redeg ei waith a'i rwydwaith trin dŵr gwastraff.
Daeth ymchwiliad Ofwat i'r casgliad fod Dŵr Cymru wedi methu â "gweithredu, cynnal a chadw ac uwchraddio" ei asedau dŵr gwastraff yn ddigonol i sicrhau y gallent ymdopi â llif carthion a dŵr gwastraff.
Mae Dŵr Cymru wedi cytuno i gymryd y camau angenrheidiol i fynd i'r afael â'r problemau ac fe fydd yn gweithredu pecyn unioni o £44.7 miliwn y byddai angen ei gyflawni yn ystod 2025-30.
Byddai'r costau hyn yn cael eu derbyn gan y cwmni, ac nid trwy filiau uwch i gwsmeriaid meddai Ofwat.
Beth yw'r cynlluniau newydd?
Mae Dŵr Cymru wedi cyflwyno ceisiadau cynllunio i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Fel rhan o'r ceisiadau hynny, mae'r cwmni'n gobeithio adeiladu cyfleusterau trin dŵr newydd yn ardal Merthyr Tudful a’r Parc Cenedlaethol.
Byddai'r cyfleusterau newydd yn cymryd lle’r gweithfeydd trin dŵr ym Mhontsticill a Chantref, ac yn uwchraddio Gweithfeydd Trin Dŵr Llwyn-onn - cyfleusterau sydd wedi bod yn gwasanaethu’r rhanbarth ers dros ganrif ac sy’n mynd yn fwyfwy anodd a chostus i’w cynnal meddai Dŵr Cymru.
Mae’r cynlluniau "unwaith mewn cenhedlaeth" yn cynnwys:
- Adeiladu gweithfeydd trin dŵr newydd yn Fferm Dan-y-Castell, Merthyr Tudful, gorsaf bwmpio newydd ar safle cyfredol Pontsticill, a phiblinellau newydd i gysylltu’r cyfleusterau newydd â’r rhwydwaith cyflenwi dŵr cyfredol.
- Gwaith uwchraddio ar gyfleusterau cyfredol Gweithfeydd Trin Dŵr Llwyn-onn, gan gynnwys creu capasiti ychwanegol i storio dŵr, a phiblinellau newydd i gysylltu’r cyfleusterau â’r rhwydwaith cyflenwi dŵr cyfredol.
- Datgomisiynu’r gweithfeydd trin cyfredol ym Mhontsticill a Chantref yn y dyfodol.
Dywedodd Roch Cheroux, Prif Weithredwr Dŵr Cymru: “Y prosiect hwn yw un o’r buddsoddiadau mwyaf sylweddol yn seilwaith Dŵr Cymru ers sawl cenhedlaeth, a bydd yn helpu i ddarparu cyflenwad diogel, dibynadwy a chynaliadwy o ddŵr yfed ar gyfer cwsmeriaid am ddegawdau i ddod.
“Fel cwmni, mae angen i ni ddarparu’r seilwaith hanfodol bwysig yma er budd ein cwsmeriaid. Mae effeithiau newid hinsawdd eisoes yn dod i’r amlwg yng Nghymru, gyda thywydd eithafol yn dod â stormydd a thywydd poeth mwy cyson, ac mae hynny’n cynyddu’r pwysau ar ein hasedau trin dŵr sy’n heneiddio.
“Rydyn ni’n gwerthfawrogi’r adborth sydd wedi dod i law i helpu i lywio ein cynlluniau. Mae hi’n bwysig ein bod ni’n deall beth sydd bwysicaf i gymunedau lleol wrth bennu sut y byddwn ni’n mynd ati i gyflawni’r seilwaith angenrheidiol a darparu gwerth gorau ar gyfer ein cwsmeriaid, y gymuned a’r amgylchedd."
Bydd Dŵr Cymru yn cynnal digwyddiad ymgysylltu cyflenwyr ar 10 Tachwedd 2026 yn ICC Cymru, Casnewydd.
Bydd yr achlysur yn tynnu darpar-gyflenwyr, partneriaid cyflawni cyfredol a busnesau o’r gadwyn gyflenwi ehangach ynghyd i archwilio sut y gallant gyfrannu.