Dringo'r Wyddfa am dridiau i godi arian at driniaeth canser Cymraes yn yr Almaen

Her Meinir Siencyn

Mae criw o ffrindiau dynes o Wynedd wedi bod yn cwblhau her dros benwythnos gŵyl y banc fel rhan o ymgyrch i godi arian er mwyn iddi dderbyn rhagor o driniaeth canser arbenigol yn yr Almaen.

Mae gan Meinir Siencyn o Lanberis ganser Cam 4 yn ei hesgyrn a'i bron, ac nid yw meddygon yn disgwyl iddi wella o’r cyflwr.

Mae ei phartner, Emyr Davies, wedi sefydlu ymgyrch i ariannu triniaeth mewn canolfan ganser arbenigol yn yr Almaen.

Mae Meinir Siencyn wedi derbyn triniaeth ddwys yn y wlad ers sawl wythnos ac mae'r driniaeth honno wedi bod yn mynd yn dda meddai ei phartner mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol yn ddiweddar.

Gobaith yr ymgyrch codi arian yw i godi £180,000 er mwyn talu am gostau’r driniaeth, yn ogystal â’r daith yno a’r gofal ychwanegol sydd ei hangen ar Meinir. 

Hyd yma, mae'r ymgyrch wedi codi dros £140,000. 

Dros y penwythnos, mae criw o ffrindiau Meinir Siencyn wedi bod yn cerdded yr Wyddfa yn ôl a blaen yn ddi-dor am dridiau gan gario delw (dummy) o fenyw Gymreig. 

Y gobaith yw y byddan nhw'n gorffen yr her fore Llun.  

Mewn neges ar y dudalen Go Fund Me, dywedodd Meinir: "Mae hyn wedi dod yn uffar o sioc i fi, a fyswn i yn hynod ddiolchgar os allwch helpu mewn unrhyw ffordd.

“Bydd y pres yn mynd tuag at driniaeth newydd sydd yn mynd i helpu fi wella.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.