Diweithdra yn codi i’w lefel uchaf ers y cyfnod clo
Mae data swyddogol a gyhoeddwyd ddydd Mawrth yn dangos bod diweithdra ar ei lefel uchaf ers cyfnod clo Covid-19 ar draws y DU yn ystod tri mis olaf 2025.
Cynyddodd diweithdra i 5.2%, i fyny o 5.1% ym mis Tachwedd, y ffigwr uchaf ers mis Ionawr 2021.
Roedd y cynnydd yn annisgwyl, gydag economegwyr wedi disgwyl i’r gyfradd ddiweithdra aros yr un fath.
Dywedodd Liz McKeown, cyfarwyddwr ystadegau economaidd yr ONS, fod y data’n dangos “bod mwy o bobl sydd allan o waith bellach yn chwilio am swydd”.
Ychwanegodd: “Mae nifer y swyddi gwag wedi aros yn sefydlog ers canol y llynedd.
“Ochr yn ochr â diweithdra cynyddol, mae hyn yn golygu bod nifer y bobl ddi-waith fesul swydd wag wedi cynyddu, gan gyrraedd uchafbwynt newydd ar ôl y pandemig.
“Yn y cyfamser, mae diswyddiadau hefyd ar gynnydd.”
Dywedodd AS Aberafan Maesteg, Stephen Kinnock, sy’n weinidog yn y llywodraeth, eu bod yn cymryd camau gweithredol i gael mwy o bobl i mewn i waith.
“Rydym yn gwybod ein bod wedi cael y twf gorau o holl wledydd G7 Ewrop y llynedd, ac o ran diweithdra, rwy’n credu ein bod wedi gweld rhywbeth fel 440,000 o swyddi newydd yn cael eu creu yn yr economi,” meddai.
“Ond, wrth gwrs, mae yna ffordd bell i fynd o hyd, o ystyried yr etifeddiaeth economaidd erchyll a gawsom ym mis Gorffennaf 2024.”
Dywedodd ysgrifennydd cysgodol y Ceidwadwyr ar gyfer gwaith a phensiynau, Helen Whately, bod y cynnydd o ganlyniad i “benderfyniadau gwael ac analluogrwydd economaidd”.
“Pobl ifanc sy’n cael eu taro galetaf,” meddai. “Swyddi lefel mynediad yw’r cyntaf i ddiflannu o ganlyniad i drethi Llafur.
“Drwy wneud cyflogi’n ddrytach ac yn fwy peryglus, mae Llafur wedi sicrhau nad yw’r rhai sy’n gadael yr ysgol ac yn graddio byth yn cael eu troed yn y drws.”