Diswyddo Scott Mills o BBC Radio 2 ar ôl honiadau am ei ymddygiad personol
Mae seren BBC Radio 2 Scott Mills wedi cael ei ddiswyddo gan y BBC ar ôl honiadau am ei ymddygiad personol, meddai'r gorfforaeth.
Dywedodd y BBC nad oedden nhw am “wneud sylw ar faterion sy’n ymwneud ag unigolion” ond eu bod nhw’n gallu “cadarnhau” ei fod “wedi gadael y BBC”.
Daeth ei raglen i ben am 09:30 ar ddydd Mawrth 24 Mawrth gyda’r neges: “Nôl yfory.”
Y bore wedyn dechreuodd Gary Davies y sioe gan ddweud ei fod yn “cadw sedd Scott Mills”.
Ymunodd Mills, 53, ag arlwy BBC Radio 2 yn ystod yr wythnos yn 2022 pan gymerodd le Steve Wright fel cyflwynydd y prynhawn.
Cyn BBC Radio 2, bu’n gweithio ar BBC Radio 1 ers 1998, a bu hefyd yn cyflwyno rhaglen benwythnos ar BBC Radio 5 Live.
Yn ôl adroddiad blynyddol diweddaraf y darlledwr, roedd Mills yn ennill rhwng £355,000 a £359,999 y flwyddyn.