Pedair blynedd a hanner o garchar i ddyn am achosi marwolaeth tad i ddau yn Llanpumsaint
Mae dyn 28 oed wedi cael ei ddedfrydu i bedair blynedd a hanner o garchar am achosi marwolaeth tad i ddau yn Llanpumsaint, Sir Gâr.
Bu farw Aaron Jones ar 23 Rhagfyr 2024 ar ôl cael ei daro gan gar tra'r oedd yn cerdded ar ffordd wledig gyda'i gi ddeuddydd cyn y Nadolig.
Fe gafodd Daniel Wyke o Gaerfyrddin ei arestio'r diwrnod canlynol, ac fe gafodd ei gyhuddo o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus ac un cyhuddiad o yrru'n beryglus flwyddyn yn ddiweddarach. Plediodd yn euog ar 16 Chwefror i achosi marolaeth Mr Jones.
Wrth ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ddydd Llun, fe gafodd Wyke ei ddedfrydu i bedair blynedd a hanner o garchar, ac fe fydd yn treulio o leiaf dwy flyendd a thri mis dan glo.
Roedd Mr Jones yn ŵr ac yn dad i ddau o blant naw ac 12 oed.
Clywodd y llys bod Mr Jones yn gwisgo siaced ‘high visibility’ tra’n mynd â’i gi am dro ychydig wedi 19.00 ar 23 Rhagfyr 2024.
Roedd y ffordd lle cafodd ei daro gan Wyke gyda therfyn cyflymder o 20mya ac yn "ddigon llydan" i ddau gar basio ei gilydd, ac fe glywodd y llys bod goleuadau stryd wedi bod ymlaen ar adeg y gwrthdrawiad.
Dywedodd Ian Wright ar ran yr erlyniad bod Mr Jones wedi cael ei daro gan gar Wyke, Vauxhall Crossland X, ar gyflymder o 34mya.
Fe ddaeth ymchwiliad yr heddlu i'r casgliad fod Mr Jones wedi cael ei daflu dros wal tair troedfedd o uchder ar ôl cael ei daro gan gar Wyke.
Roedd Mr Jones yn cerdded i gyfeiriad Llandysul ac roedd Wyke hefyd yn teithio i’r un cyfeiriad.
Fe edrychodd Wyke dros y wal ac fe welodd Mr Jones mewn "pwll o ddŵr", ond nid oedd wedi ei helpu.
Fe glywodd y llys hefyd fod Wyke wedi dychwelyd i leoliad y gwrthdrawiad tua 15 munud ar ôl iddo daro Mr Jones, ond fe yrrodd i ffwrdd eto ar ôl i ddyn a ddaeth o hyd i’r ci ar y ffordd ddweud wrth Wyke ei fod wedi ffonio gwraig Mr Jones.
Llai nag awr wedi’r gwrthdrawiad, roedd Wyke, a oedd yn gweithio fel gyrrwr cludo, wedi teithio'n ôl i’r bwyty lle’r oedd yn gweithio yng Nghaerfyrddin.
Yn ddiweddarach, fe aeth â’i gar i mewn i garej a pharhau i weithio gan ddefnyddio car ei dad.
Teulu yn dioddef 'dedfryd oes'
Wrth siarad yn y llys, dywedodd gwraig Aaron Jones, Lisa-Hâf bod "rhan ohoni" wedi marw gyda’i gŵr.
"Nawr bod Aaron wedi marw, mae rhan ohona’ i wedi hefyd," meddai.
"Mae fy myd cyfan yn deilchion. Dwi nawr yn gweld y Nadolig fel cyfnod o boen.
"Mae fy mhlant yn ofni pan dwi’n mynd a’r ci am dro rhag ofn i nhw byth fy ngweld i eto.
"Fyddai byth 100% yn hapus eto, a’r peth gwaethaf yw bod fy mhlant byth mynd i fod yn 100% hapus eto."
Ychwanegodd: "Dwi’n colli bob dim am Aaron, atgofion a straeon yw’r unig bethau sydd gen i nawr.
"Bydd Daniel Wyke yn gallu adeiladu ei fywyd eto, ond fyddai byth yn gallu gwneud hynny gan fod Aaron wedi mynd."
Dywedodd mam Mr Jones, Maria Steadman, bod ei theulu yn dioddef "dedfryd oes".
"Bydd neb byth yn deall sut mae’n teimlo i fod yn ddioddefwr hwn a’r effaith mae'n ei chael arna i a fy nheulu," meddai.
"Fel teulu rydym yn dioddef dedfryd oes wrth golli Aaron. Mae plant a gwraig fy mab wedi colli tad a gŵr cariadus."
Wrth siarad yn uniongyrchol â Wyke, dywedodd: "Mi wyt ti wedi cymryd fy unig blentyn oddi wrthyf, a dyna sy’n brifo fwyaf."
'Creulon ac annynol'
Roedd Wyke yn gwisgo crys-T gwyrdd a hoodie llwyd ac yn ymddangos yn ddi-emosiwn yn y doc wrth i’r teulu ddarllen eu datganiadau.
Wrth ei ddedfrydu, dywedodd y Barnwr Paul Thomas KC bod ei weithredoedd yn "hollol greulon".
"Mae’n amlwg nad oeddet ti’n edrych neu fyddai ti wedi ei weld," meddai.
"Roedd presenoldeb y ci a dy benderfyniad i edrych dros y wal yn dangos dy fod wedi osgoi cyfrifoldeb am yr hyn roeddet ti wedi ei wneud.
"Yn fy marn i, roedd hynny yn hollol greulon ac yn annynol.
"Nid oes modd mesur y golled ac nid oes unrhyw beth mae’r llys hon yn ei wneud yn gallu cysuro’r teulu.
"Nid oes modd i unrhyw beth lenwi bwlch Aaron Jones yn eu bywydau."