Iechyd gwael 'sy'n atal pobl rhag gweithio' yn costio 'bron i £20 biliwn y flwyddyn'
Mae iechyd gwael "sy'n atal pobl rhag gweithio" yn costio "bron i £20 biliwn y flwyddyn" yn ôl ymchwil gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC).
Dywedodd ICC bod y gost yn cael ei amcangyfrif trwy gyfri nifer y dyddiau gwaith sy'n cael eu colli oherwydd absenoldeb salwch, pobl oedran gweithio sydd allan o waith oherwydd salwch a ddim yn chwilio am waith, rhoi gofal anffurfiol sy'n gysylltiedig â salwch, refeniw treth a gollwyd, costau'r GIG a thalu budd-daliadau.
Mae Ciarán Humphreys, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd ICC yn dweud ei fod yn "bwysig" buddsoddi mewn gwaith er mwyn cadw pobl yn iach a sicrhau eu bod yn gallu gweithio.
“Yng Nghymru, mae llawer o bobl yn treulio mwy o’u bywydau mewn iechyd gwael, o ganlyniad i’r ffaith bod y blociau adeiladu fel tai o safon neu waith da a theg sydd eu hangen arnom i’n cadw’n iach, yn gallu bod yn ddiffygiol neu’n absennol," meddai.
"Rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl sydd allan o waith yn ystod y blynyddoedd diwethaf o ganlyniad i afiechyd, yn enwedig afiechyd meddwl ymhlith pobl iau, a phroblemau cyhyrysgerbydol mewn pobl hŷn.
"Mae pobl â chyflyrau iechyd yn fwy tebygol o ddechrau gweithio os byddant yn cael cymorth cynnar, wedi'i deilwra, ac maent yn fwy tebygol o aros mewn gwaith os oes ganddynt gyflogwr hyblyg a chefnogol sy’n barod i’w helpu.
"Mae'r ymchwil hon yn dangos y goblygiadau economaidd sy’n deillio o afiechyd ac anabledd sy'n atal pobl rhag gweithio. Mae’n dangos pwysigrwydd buddsoddi mewn gwaith atal er mwyn cadw pobl yn iach a chefnogi cyfranogiad mewn gwaith teg.”
Costau
Yn ôl yr ymchwil gan ICC mae sawl elfen sydd yn arwain at filiynau o bunnoedd yn cael eu gwario pob blwyddyn ar "iechyd gwael."
Mae rhan yn cynnwys "anweithgarwch economaidd oherwydd afiechyd, absenoldeb salwch a thaliadau treth ac yswiriant gwladol."
Dyma mae ICC yn dweud sydd yn arwain at swm o £19.4 biliwn yn cael ei wario bob blwyddyn:
1.Anweithgarwch Economaidd oherwydd afiechyd - £8.2 biliwn
2.Absenoldeb oherwydd salwch - £2.9 biliwn
3.Rhoi gofal anffurfiol o ganlyniad i afiechyd - £2.3 biliwn
4.Costau ychwanegol i’r GIG - £155.6 miliwn
5.Taliadau budd-daliadau - £2.4 biliwn
6.Taliadau Treth ac Yswiriant Gwladol o ganlyniad i beidio gweithio oherwydd iechyd - £3.4 biliwn
Cyfanswm - £19.4 biliwn
'Cymorth clir'
Mae ICC yn dweud bod ganddyn nhw gynllun sydd yn "rhoi cymorth clir ac ymarferol" i gyflogwyr hyrwyddo iechyd a llesiant staff.
Mae Cymru Iach ar Waith yn gynllun cenedlaethol am ddim sydd yn "ceisio gwella iechyd ac atal afiechyd yn y gwaith trwy gefnogi cyflogwyr" ac yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru.
Dweud mai ICC bod y cynllun yn cefnogi cyflogwyr i "greu amgylcheddau ac arferion gwaith iach a diogel, cymryd camau i wella iechyd a llesiant staff a hybu ymddygiad iach. a chefnogi rhai â chyflyrau cronig i aros yn y gwaith."
Dywedodd Oliver Williams, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd: “Mae Cymru Iach ar Waith yn rhoi cymorth clir ac ymarferol i gyflogwyr i amddiffyn a hyrwyddo llesiant staff.
"Pan fydd cyflogwyr yn buddsoddi mewn iechyd a llesiant staff, maent yn creu gweithleoedd cryfach, hapusach a mwy cynhyrchiol. Am bob £1 sy’n cael ei wario ar gefnogi iechyd meddwl a llesiant eu gweithlu."