Galw am ohirio cynlluniau i ehangu Carchar y Parc yn sgil pryder am ddiogelwch
Mae Aelodau Seneddol yng Nghymru wedi galw ar Lywodraeth y DU i ohirio cynlluniau i ehangu Carchar y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn sgil pryder am ddiogelwch staff a charcharorion.
Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn bwriadu ychwanegu 345 o garcharorion a 160 o staff at gapasati'r carchar.
Ond mewn adroddiad a gafodd ei gyhoeddi ddydd Llun, dywedodd y Pwyllgor Materion Cymreig y dylai'r weinyddiaeth oedi'r cynlluniau tra bod gwaith yn parhau i fynd i'r afael â phroblemau sy'n ymwneud â thrais, camddefnyddio cyffuriau a hunan-niweidio yno.
Fe gafodd Carchar y Parc ei agor yn 1997 ac mae'n cael ei redeg gan y cwmni preifat G4S, gyda lle i 1,670 o garcharorion a 676 o staff.
Daw'r alwad yn dilyn cyfnod cythryblus i'r carchar lle bu farw 17 o garcharorion yn 2024 – mwy nag unrhyw garchar arall yn y DU.
Roedd naw wedi marw o achosion naturiol, gyda phum marwolaeth yn gysylltiedig â chyffuriau a thri o ganlyniad i hunanladdiad.
Daeth adroddiad damniol gan Arolygiaeth Carchardai EM i'r casgliad ym mis Ionawr 2025 nad oedd Carchar y Parc yn gallu delio â chyflenwad "brawychus" o gyffuriau sydd wedi arwain at farwolaethau nifer o garcharorion yno.
Ym mis Ionawr 2026, daeth adolygiad dilynol i'r casgliad fod rhywfaint o gynnydd wrth fynd i'r afael â chyflenwad cyffuriau ond bod heriau sylweddol yn parhau.
Mae unrhyw farwolaeth sydd o ganlyniad i drais, hunanladdiad a chamddefnyddio cyffuriau yn "drasiedi y mae modd ei hatal" ac yn "symbol o system sy'n methu", yn ôl yr adroddiad gan y Pwyllgor Materion Cymreig.
Dywedodd yr adroddiad: "Rydym yn cydnabod yr angen i ehangu capasiti carchardai i fynd i'r afael â'r pwysau poblogaeth sy'n wynebu'r system.
"Fodd bynnag, rydym yn pryderu y byddai ehangu Carchar y Parc yn tynnu sylw oddi wrth y ffocws angenrheidiol ar welliant cynaliadwy a gallai beryglu'r cynnydd bregus sydd wedi cael ei wneud i wella diogelwch ei garcharorion."
Fe aeth yr adroddiad ymlaen i ddweud bod ASau yn argymell oedi’r cynlluniau i ehangu Carchar y Parc am y tro.
"O ystyried maint y methiannau a gafodd eu datgelu yn 2024, a’r gwaith sydd ar ôl i ymgorffori gwelliannau yn y carchar, dylai’r llywodraeth ailystyried a oes modd ehangu Carchar y Parc heb beryglu diogelwch carcharorion a staff y carchar," meddai'r adroddiad.
Dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder: "Rydym yn cymryd camau pendant i fynd i'r afael â'r argyfwng carchardai a etifeddwyd gan y Llywodraeth hon – gan adeiladu 14,000 o leoedd carchar ychwanegol erbyn 2031 a diwygio dedfrydu i sicrhau y gallwn bob amser roi troseddwyr peryglus dan glo."