Disgwyl ‘ton wres’ yng Nghymru dros benwythnos gŵyl y banc

Traeth - torheulo

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi dweud y gallai Cymru brofi ‘ton wres’ (heatwave) dros benwythnos gŵyl y banc.

Mae disgwyl i’r tymheredd gyrraedd uchafbwynt o tua 28°C neu 29°C dros y penwythnos yng Nghymru, medden nhw.

Gallai Cymru fodloni’r meini prawf ar gyfer ton wres erbyn dydd Sul, sef tri diwrnod yn olynol dros 25°C.

Bydd rhannau o’r DU yn boethach na rhai cyrchfannau gwyliau poblogaidd yng Ngwlad Groeg, meddai meteorolegwyr.

Fe allai de orllewin Lloegr weld y diwrnod cynhesaf ym mis Mai ar gofnod.

Dywedodd Tom Morgan o’r Swyddfa Dywydd fod siawns o 40% y gallai tymereddau godi i 33C mewn rhannau o dde Lloegr ddydd Sul. 

Y record bresennol ar gyfer tymheredd ym mis Mai yw 32.8C, a gofnodwyd yn Camden Square, Llundain, ym 1922.

Dywedodd Mr Morgan: “Mae hwn yn gyfnod hirfaith o dymereddau uchel.”

Y diwrnod cynhesaf a gofnodwyd yn y DU hyd yma eleni oedd 26.6C yn Kew Gardens yn ne-orllewin Llundain ym mis Ebrill.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.