15 mlynedd o garchar i gyn-arweinydd ieuenctid am gam-drin dau fachgen yn rhywiol
Mae cyn-arweinydd ieuenctid a wnaeth gam-drin dau fachgen yn rhywiol wedi cael ei ddedfrydu i 15 mlynedd dan glo.
Fe gafodd Paul Vaughan, 75 oed, ei garcharu yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Mercher.
Bydd y ddedfryd yn rhedeg law yn llaw â dedfryd o ddeng mlynedd a hanner y mae Paul Vaughan yn ei dreulio dan glo ar hyn o bryd.
Clywodd y llys bod Mr Vaughan wedi cam-drin y bechgyn mwy na 40 o flynyddoedd yn ôl yng nghlwb rhwyfo'r Bala, mewn pabell yng nghysgod mynydd Tryfan ac yn ei gartref a'i gar.
Wrth siarad yn y llys, dywedodd un o'r dioddefwyr bod y cyfnod yna o'i fywyd “erioed wedi ei adael.”
Dywedodd y barnwr, Nicola Jones, wrth y dioddefwr ei fod yn “rhywbeth dewr iawn i'w wneud” wrth gyfeirio ato yn siarad am yr hyn a ddigwyddodd iddo.
"Mae'n dorcalonnus meddwl am yr effaith mae gweithredoedd y dyn hwn wedi eu cael arnot ti. Rwyt ti'n ddyn gwell nag ef."
Fe wnaeth Vaughan gyfaddef i 15 o droseddau.
Dywedodd Patrick Geddes a oedd yn cynrychioli Mr Vaughan, sydd yn dioddef o effeithiau cynnar dementia, y byddai'n 84 oed pan fydd ei gyfnod presennol yn y carchar yn dod i ben.
Fe ddywedodd y barnwr bod Vaughan wedi cyflawni gweithredoedd “ffiaidd” a'i fod yn “ysglyfaethu ar fechgyn ifanc er mwyn ei bleser rhywiol ei hun.”
Ychwanegodd ei fod yn “annhebygol” y bydd Vaughan yn gadael y carchar cyn iddo farw.
