Penodi Ashok Ahir yn gyfarwyddwr materion corfforaethol Undeb Rygbi Cymru
Mae Ashok Ahir wedi’i benodi i swydd newydd cyfarwyddwr materion corfforaethol Undeb Rygbi Cymru.
Daw penodiad Mr Ahir yn dilyn cyfnod cythryblus i Undeb Rygbi Cymru, gyda chynlluniau dadleuol i leihau nifer y timau proffesiynol o bedwar i dri wedi denu beirniadaeth, protestiadau a chamau cyfreithiol.
Cyhoeddodd cadeirydd yr Undeb, Richard Collier-Keywood, ym mis Mawrth y bydd yn gadael ei rôl ar ddiwedd ei gytundeb yn yr haf.
Gobaith Undeb Rygbi Cymru ydi y bydd rôl newydd Mr Ahir yn helpu i arwain llais cyhoeddus yr Undeb ar draws Cymru a thu hwnt, gan gefnogi’r modd y bydd yr Undeb yn cysylltu â chefnogwyr, partneriaid, cymunedau, y cyfryngau a bywyd cyhoeddus Cymru’n gyffredinol.
Roedd Mr Ahir yn newyddiadurwr gyda'r BBC cyn mynd ymlaen i weithio fel cyfarwyddwr cyfathrebu Swyddfa Cymru, ac yna'n ddirprwy cyfarwyddwr cyfathrebu Cabinet Llywodraeth y DU.
Am y pedair blynedd diwethaf, mae Mr Ahir wedi bod yn gyfarwyddwr cyfathrebu ac ymgysylltu gyda’r rheoleiddiwr Cymwysterau Cymru.
Bu hefyd yn lywydd Llys yr Eisteddfod Genedlaethol, ac mae ar hyn o bryd yn llywydd ar Lyfrgell Genedlaethol Cymru.
Dywedodd Mr Ahir ei fod yn parhau’n llywydd ar Lyfrgell Genedlaethol Cymru, a bod ymuno ag Undeb Rygbi Cymru yn "anrhydedd".
"Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at fwrw’r maen i’r wal gan fod gan rygbi Cymru le unigryw yng nghalon ac ym mywyd dyddiol y genedl," meddai.
"Byddaf yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws y sefydliad a’r gêm yn ehangach i gefnogi uchelgeisiau ein strategaeth Cymru’n Un, gan helpu i adrodd straeon a datblygiadau’r gêm yma yng Nghymru, gan wneud hynny gydag eglurder, hyder a chywirdeb."
Dywedodd prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Abi Tierney: "Mae Ashok yn dod atom â chyfoeth o arbenigedd cyfathrebu a’r cyfryngau yn ogystal â dealltwriaeth gadarn o fywyd cyhoeddus a’r dirwedd wleidyddol yma yng Nghymru.
"Rydym wrth ein bodd gallu ei groesawu atom i’r Undeb a hynny ar adeg mor bwysig i ni fel sefydliad."
