Disgwyl eira ar dir uwch yng ngogledd a chanolbarth Cymru

Yr Wyddfa

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi dweud ei bod yn disgwyl eira ar dir uchel mewn rhannau o Gymru.

Mae rhannau helaeth o Loegr a’r Alban yn wynebu rhybudd melyn am eira.

Y disgwyl yw y bydd glaw yn symud ar draws y DU nos Lun, gan droi’n eira ar dir uchel yng nghanolbarth a gogledd Cymru.

Bydd rhybudd melyn mewn grym rhwng hanner nos a chanol dydd ddydd Mawrth, o Orllewin Canolbarth Lloegr hyd at dde’r Alban. Does dim rhybudd mewn grym yng Nghymru ar hyn o bryd.

Dywedodd meteorolegydd y Swyddfa Dywydd, Aidan McGivern, mewn diweddariad gyda’r nos y byddai’r tywydd yn “ansefydlog” ddydd Mawrth.

“Yn ystod nos Lun, rydyn ni’n debygol o weld rhywfaint o law sy’n rhewi neu eira ar dir uchel yng nghanolbarth a gogledd Cymru, a glaw ar dir is.

“Yna, wrth i’r system symud i’r aer oerach ar draws gogledd Lloegr a de’r Alban yn oriau mân dydd Mawrth, rydyn ni’n debygol unwaith eto o weld cryn dipyn o eira a fydd yn tarfu ar bobl.

“Bydd hynny ar dir dros 300 metr yng ngogledd Lloegr, a thros ryw 150 i 200 metr yn ne’r Alban.

“Bydd gwyntoedd cynyddol gryf yn cyd-fynd â hynny, gyda hyrddiau o 50 i 60 milltir yr awr.

“Mae hynny’n golygu y bydd amodau’n beryglus ar dir uchel yng ngogledd Lloegr a de’r Alban, gyda pherygl o eira’n lluwchio, rhew’n cronni a stormydd eira ar dir is,” meddai.

Dywedodd y gallai fod ychydig o eira ar dir is, ond ei fod yn debygol o droi’n ôl yn law erbyn dechrau’r dydd.

Ychwanegodd: “Ac yn y mannau lle mae’r rhan fwyaf o bobl yn byw, tywydd gwlyb fydd hi’n bennaf yn hytrach na thywydd gaeafol.”

Bydd unrhyw eira sy’n disgyn ar dir is yn debygol o doddi’n gyflym, meddai’r Swyddfa Dywydd.

Mewn ardaloedd lle mae’r eira’n cronni, mae disgwyl rhwng 1 a 5cm. Fe allai rhwng 5 a 15cm gronni mewn rhai mannau sydd rhwng 300 a 400 metr neu fwy uwchlaw lefel y môr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.