Dirwy o £130,000 i bedwar o Sir Gâr am fridio cŵn yn anghyfreithlon
Mae pedwar person o Sir Gâr wedi cael gorchymyn i dalu cyfanswm o £129,873.41 yn dilyn erlyniad gan Gyngor Sir Caerfyrddin am fridio cŵn yn anghyfreithlon.
Plediodd y diffynyddion Stacey May June Edwards, Peter John Edwards, Sian Eleri Thomas, a David Malcolm James Thomas, i gyd o Sea Breeze, Mynyddygarreg, Cydweli, yn euog i droseddau o dan Reoliadau Bridio Cŵn (Cymru) 2014 yn Llys y Goron Abertawe.
Rhoddodd y llys orchmynion atafaelu gwerth cyfanswm o £129,873.41 o dan y Ddeddf Enillion Troseddu (POCA) rhwng y pedwar diffynnydd.
Bydd yn rhaid iddynt hefyd dalu cyfanswm o £8,000 mewn costau ac mae bob un wedi derbyn dirwy o £2000.
Dechreuodd yr ymchwiliad ym mis Ebrill 2021 pan dderbyniodd tîm Iechyd Anifeiliaid Cyngor Sir Caerfyrddin e-bost gan Peter Edwards yn gofyn am wybodaeth am wneud cais am drwydded bridio cŵn.
Er iddynt gael y pecyn gwybodaeth trwyddedu llawn, a chyflwyno cais rhannol ym mis Chwefror 2022, tynnodd yr ymgeiswyr eu cais yn ôl yn ddiweddarach y flwyddyn honno.
Gwerthu heb drwydded
Ym mis Mawrth 2024, derbyniodd y Cyngor gŵyn bod cŵn bach yn cael eu hysbysebu i'w gwerthu heb y drwydded angenrheidiol.
Cysylltodd swyddogion â llwyfannau hysbysebu a chyhoeddi ceisiadau data i gadarnhau graddfa'r gweithgaredd.
Datgelodd dadansoddiad o'r cofnodion hysbysebu gan Pets4Homes, Freeads, a Gumtree fod sawl torraid o gŵn bach yn cael eu hysbysebu gan y bridwyr.
Cadarnhaodd gohebiaeth gan y diffynyddion fod hyd at 25 o gŵn yn cael eu cadw yn yr eiddo, ac roedd rhwng 16 a 19 ohonyn nhw yn geist.
Hawliodd rhai diffynyddion gyd-berchnogaeth o'r cŵn, a gwadodd eraill eu rhan i raddau.
Daeth swyddogion y Cyngor o hyd i nifer o hysbysebion cŵn bach wedi'u postio rhwng Gorffennaf 2020 ac Ebrill 2025, oedd yn "dangos patrwm helaeth o weithgarwch bridio heb drwydded."
'Cwbl annerbyniol'
Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd:
"Roedd graddfa'r gweithgaredd a ddatgelwyd yn yr eiddo hwn yn gwbl annerbyniol, ac rydyn ni'n croesawu penderfyniad y Llys i gyhoeddi gorchmynion atafaelu sylweddol o dan POCA.
"Mae'r achos hwn yn dangos safiad cadarn y Cyngor yn erbyn bridio cŵn yn anghyfreithlon a heb drwydded. Mae'r rheoliadau hyn ar waith i amddiffyn lles anifeiliaid a sicrhau bod gweithgareddau bridio yn destun goruchwyliaeth briodol.
"Rydyn ni'n annog unrhyw un sydd â phryderon am fridio cŵn anghyfreithlon i roi gwybod i ni. Bydd ein swyddogion Iechyd Anifeiliaid yn parhau i ymchwilio'n drylwyr ac yn cymryd camau yn erbyn y rhai sy'n anwybyddu'r gyfraith."
Llun: Google
