Dirwy i ddyn o Abertawe am dipio 'sawl pentwr' o wastraff masnachol

tipio - (Castell Nedd Port Talbot)

Mae perchennog busnes wedi cael gorchymyn i dalu bron i £3,000 ar ôl i 'sawl pentwr' o wastraff masnachol gael eu darganfod mewn ardal wledig ym Mhontardawe.

Fe wnaeth Tîm Gorfodi Gwastraff Cyngor Castell-nedd Port Talbot gynnal ymchwiliad a ddaeth o hyd i dri achos mawr o dipio anghyfreithlon ar Ffordd Baran ym mis Tachwedd 2025.

Daeth Swyddogion Gorfodi Gwastraff o hyd i symiau sylweddol o wastraff masnachol, gan gynnwys bagiau du, pecynnau bwyd, cardfwrdd a deunyddiau eraill oedd wedi’u gadael yno'n anghyfreithlon. 

Roedd y dystiolaeth a ddaeth o’r gwastraff yn gysylltiedig â safle busnes yn Abertawe.

Fe wnaeth yr ymchwilwyr ddarganfod bod gwastraff o’r busnes wedi’i gasglu gan gwmni oedd yn eiddo i Thomas Daniel Landek.

Roedd y gwastraff hefyd yn gallu cael ei gysylltu â cherbyd yr oedd y dyn 37 oed yn ei reoli.

Pan gafodd ei gyfweld dan rybudd, cadarnhaodd Mr Landek mai ef oedd unig gyfarwyddwr y cwmni oedd yn gyfrifol am gasglu’r gwastraff, a bod is-gontractwr wedi gwneud y gwaith gan ddefnyddio un o gerbydau cwmni Landek.

Ymddangosodd Thomas Daniel Landek, 37 oed, o Faes Y Gwernen yng Nghwmrhydyceirw, gerbron Llys Ynadon Abertawe lle plediodd yn euog i drosedd o dan Adran 33 o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990, yn ymwneud â gwaredu gwastraff rheoledig yn anghyfreithlon.

Cafodd ddirwy o £1,152 a gorchymyn iddo dalu gordal dioddefwr o £461, ynghyd â chostau erlyn ac iawndal gwerth £1,246.46, gan ddod â’r cyfanswm i £2,859.46.

Dywedodd y Cynghorydd Scott Jones, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Stryd Cyngor Castell-nedd Port Talbot:

“Roedd yr achos hwn yn ymwneud â sawl pentwr mawr o wastraff masnachol ym Mhontardawe, a allai fod wedi achosi niwed difrifol i’r amgylchedd cyfagos.

"Mae tipio anghyfreithlon yn niweidio ein cymunedau, ein cefn gwlad a’n mannau cyhoeddus, a byddwn yn parhau i ymchwilio’n drylwyr i droseddau ac yn sicrhau bod y rhai sy’n gyfrifol yn cael eu dwyn i gyfrif.

“Hoffem hefyd atgoffa busnesau a chartrefi o bwysigrwydd sicrhau bod unrhyw un y maen nhw'n ei dalu i symud gwastraff wedi'i awdurdodi’n briodol ac yn cael gwared ar y gwastraff yn gyfreithlon,” meddai.

Llun: Cyngor Castell-Nedd Port Talbot

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.