Dinesydd o Brydain ymhlith chwech gafodd eu lladd mewn saethu yng Ngwlad Pwyl
Dinesydd o Brydain ymhlith chwech gafodd eu lladd mewn saethu yng Ngwlad Pwyl
Mae dinesydd o Brydain ymhlith chwech o bobl gafodd eu lladd mewn saethu yn ninas Krakow yng Ngwlad Pwyl.
Mae’r dyn sy’n cael ei amau o gyflawni’r ymosodiad, dinesydd Pwylaidd 25 oed, yn parhau yn yr ysbyty ar ôl cael ei saethu gan yr heddlu.
Y gred yw ei fod wedi ei ysbrydoli gan “ideolegau’r dde eithafol,” meddai’r awdurdodau yng Ngwlad Pwyl.
Cafodd pedair menyw a dau ddyn eu lladd, gan gynnwys un dinesydd o Brydain, pan ddechreuodd dyn saethu ym Mhrif Sgwâr Krakow brynhawn Sadwrn.
Dywedodd Prif Weinidog Gwlad Pwyl, Donald Tusk, fod tri chorff arall wedi cael eu darganfod yng nghartref y dyn sydd dan amheuaeth mewn dinas tua 93 milltir o Krakow.
Fore Sul, fe gadarnhaodd heddlu Gwlad Pwyl mai rhieni a’i chwaer 21 oed y dyn oedd y tri dioddefwr hynny.
Mewn cynhadledd i’r wasg nos Sadwrn, dywedodd pennaeth heddlu Gwlad Pwyl, Marek Boron: “Mae 16 o bobl wedi’u hanafu, gan gynnwys dau swyddog heddlu a’r ymosodwr ei hun.
“Mae 11 o’r rheiny’n ddinasyddion Pwylaidd, a phump yn ddinasyddion gwledydd tramor.
“Mae chwech wedi marw, pedair menyw a dau ddyn. Mae tri yn bobl o Wlad Pwyl, un yn ddinesydd o Brydain a dau berson sydd heb gael eu hadnabod eto.
“Rydyn ni’n cynnal gwaith yn y man lle roedd yr ymosodwr yn byw, felly rwy’n meddwl y byddwn ni’n gwybod mwy wrth i’r ymchwiliadau hynny fynd rhagddyn nhw.”
Y saethu
Nid yw’r dyn sy’n cael ei amau wedi cael ei enwi eto, ond mae’r awdurdodau wedi cadarnhau ei fod yn ddyn Pwylaidd 25 oed.
Dywedodd Gweinidog Mewnol Gwlad Pwyl, Marcin Kierwinski, fod gan yr ymosodwr “safbwyntiau radical iawn” a’i fod “wedi’i swyno gan ideolegau’r dde eithafol”.
Fe ddechreuodd y dyn saethu gydag arf awtomatig ym Mhrif Sgwâr Krakow, yng nghanol yr hen dref, tua 15.30 brynhawn Sadwrn.
Fe yrrodd i sawl man yn y sgwâr, gan saethu ym mhob un, meddai’r awdurdodau.
Yn ddiweddarach, cafodd ei saethu a’i anafu gan swyddogion yr heddlu, cyn cael ei gludo i’r ysbyty i gael llawdriniaeth.
'Clywed seirenau'
Fe ddywedodd dyn ifanc o Gymru sydd draw yn Kraków ar hyn o bryd, nad oedd am gael ei enwi, wrth Newyddion S4C ei fod wedi clywed seirenau a gweld hofrennydd.
"Oedden ni ar un o'r strydoedd wrth ochr y brif sgwâr, ac fe glywson ni seirenau," meddai.
"Fe welson ni bod dipyn o bobl yn dod allan o'r siopau, ac yn sefyll yn y drysau yn siarad efo'i gilydd.
"Wedyn fe welson ni ar y Newyddion bod saethu wedi bod, a pump wedi'u lladd."
Ychwanegodd mewn sgwrs gyda Newyddion S4C : "Mae Jet2 wedi cysylltu gyda ni a dweud eu bod nhw'n ymwybodol o'r sefyllfa ac i ddilyn y guidance diweddaraf gan yr awdurdodau lleol."
Roedd Jonathan Balshaw, o Ipswich, y tu allan i Fasilica’r Santes Fair yn y sgwâr gyda’i gariad pan ddechreuodd yr ymosodiad.
“Fe wnaethon ni redeg i lawr ochr yr eglwys a thrwy’r drws ochr a chuddio gyda sawl person arall nes i’r saethu dawelu,” meddai wrth y BBC.
“Cafodd llawer o ergydion eu tanio, mwy nag 20, ac roedd yn swnio fel bod sawl dryll gwahanol. Roedd dau sŵn amlwg wahanol.”
Ymateb
Mae’r Prif Weinidog Andy Burnham wedi rhoi teyrnged i ddioddefwyr yr ymosodiad.
Dywedodd Mr Burnham: “Mae’r saethu erchyll yn Krakow heddiw wedi fy synnu a’m tristáu.
“Mae fy meddyliau gyda theuluoedd y rhai sydd wedi colli eu bywydau, pawb sydd wedi’u hanafu a phawb sydd wedi’u heffeithio gan y trais disynnwyr hwn.
“Mae’r Deyrnas Unedig yn sefyll gyda phobl Gwlad Pwyl.”
Mewn datganiad, dywedodd yr Ysgrifennydd Tramor Ed Miliband: “Mae Llywodraeth y DU yn galaru’n fawr am y dinesydd o Brydain a’r dioddefwyr eraill sydd wedi marw ar ôl yr ymosodiad erchyll yn Krakow.
“Rwy’n estyn fy nghydymdeimlad dwysaf i deuluoedd y dioddefwyr. Mae’r DU yn sefyll yn gadarn gyda phobl Gwlad Pwyl.”
Disgrifiodd Gweinidog Amddiffyn Gwlad Pwyl, Wladyslaw Kosiniak-Kamysz, y saethu angheuol ddydd Sadwrn fel “gweithred o derfysgaeth” yn erbyn pobl Krakow.
Mae’r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu (FCDO) yn cynghori dinasyddion o Brydain yn Krakow i “ddilyn cyngor yr awdurdodau lleol a chadw golwg ar y cyfryngau lleol”.
Dywedodd Prif Weinidog Gwlad Pwyl, Donald Tusk wrth gael gwybod am y saethu bod “y Gweinidog Mewnol yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i mi am y sefyllfa yn Kraków ar ôl y saethu trasig".
“Mae’r heddlu’n ymchwilio i gefndir yr ymosodiad a’r holl amgylchiadau," meddai.
Mae Arlywydd Gwlad Pwyl, Karol Nawrocki, yn dweud ei fod yn teimlo'n “bryderus iawn am adroddiadau am y digwyddiadau trasig” yn Kraków, a bod ei feddyliau gyda’r dioddefwyr, y rhai sydd wedi’u hanafu a’u teuluoedd.
“Rwy’n cadw mewn cysylltiad â’r awdurdodau perthnasol ac yn disgwyl esboniad llawn o amgylchiadau’r digwyddiadau trasig hyn,” meddai.
“Mae pennaeth y Swyddfa Diogelwch Cenedlaethol ar ei ffordd i Kraków. Mae diogelwch pobl Gwlad Pwyl yn flaenoriaeth!”
Dywedodd Maer Krakow, Lukasz Gibala, mewn neges ar X y byddai cyfnod o alaru yn y ddinas tan 11 Tachwedd.
Llun: Reuters.
