Rhybudd melyn am niwl yn Wrecsam a Sir y Fflint
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am niwl mewn rhannau o ogledd-ddwyrain Cymru, gyda’r posibilrwydd o darfu ar deithio fore Sul.
Mae’r rhybudd yn cynnwys Wrecsam a Sir y Fflint, yn ogystal â rhannau helaeth o Loegr.
Cafodd ardal y rhybudd ei hymestyn am 04.20 fore Sul i gynnwys gogledd-ddwyrain Cymru a mwy o ardaloedd yn Lloegr.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd: “Mae niwl eang wedi datblygu dros nos. Mae hyn yn cynnwys rhai mannau lle mae’r niwl yn drwchus, gyda'r pellter gweld wedi gostwng i lai na 50 metr mewn mannau.
“Bydd y niwl yn codi ac yn clirio’n araf yn ystod bore Sul.”
Gallai teithiau gymryd mwy o amser, gyda’r posibilrwydd o oedi i wasanaethau bysiau a threnau. Mae yna hefyd siawns y bydd teithiau hedfan yn cael eu gohirio neu eu canslo.
Mae’r Swyddfa Dywydd yn cynghori gyrwyr i wirio cyflwr y ffyrdd cyn teithio, caniatáu mwy o amser ar gyfer eu taith ac addasu eu cynlluniau os oes angen.
Mae hefyd yn annog gyrwyr i sicrhau eu bod yn gwybod sut i droi goleuadau niwl eu cerbydau ymlaen, a gwirio eu bod yn gweithio cyn cychwyn.
Y cyngor i bobl sy’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yw gwirio’r wybodaeth ddiweddaraf gan eu cwmni teithio a dilyn ei gyngor.
Mae’r Swyddfa Dywydd yn atgoffa pobl y gall rhybuddion newid, ac yn eu hannog i gadw golwg ar y rhagolygon diweddaraf ar gyfer eu hardal.
