'Dim modd' i’r Eisteddfod Genedlaethol osgoi Deallusrwydd Artiffisial
'Dim modd' i’r Eisteddfod Genedlaethol osgoi Deallusrwydd Artiffisial
Nid oes modd i'r Eisteddfod osgoi dylanwad Deallusrwydd Artiffisial (AI), yn ôl arbenigwyr yn y maes.
Dywedodd un arbenigwr nad oedd yn "meddwl bod modd gwarchod yr Eisteddfod o ddefnydd AI".
Mae rheolau’r Eisteddfod yn nodi nad oes modd i gystadleuwyr ddefnyddio AI i greu cyfansoddiadau ‘oni nodir yn wahanol'.
Cadeiriwyd panel gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol am ddefnydd AI gan Dr Cynog Prys, Uwch Ddarlithydd Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor.
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Dr Prys: “Dwi’m yn meddwl bod modd gwarchod yr Eisteddfod o ddefnydd AI.
"Ma’ AI yn mynd i fod yn ddarn o holl fyd technolegol ‘da’n ni’n eu defnyddio.
“Dwi ddim yn gwybod os oes ‘na fodd i wahardd hwn [AI], ond dwi ddim yn gwybod os ddylid cofleidio fo yn yr un ffordd ond i bobl fod yn agored o ran pa ddefnydd mae’n nhw wedi ei wneud o’r dechnoleg yma.”
Ychwanegodd: "Mae'n anodd iawn profi os mae rhywun wedi defnyddio AI a dwi’n meddwl dy fod ti’n gallu ei ddefnyddio fo mewn ffordd glyfar iawn.
“Er enghraifft bo chdi’n trio am y Goron neu’r Gadair, ‘sa chi’n gallu defnyddio’r dechnoleg yma am syniadau a ‘sa neb byth yn gallu profi ‘sa chi ‘di neud.”
Datblygiad AI yn yr iaith Gymraeg
Mae Dewi Bryn Jones o Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr ym Mhrifysgol Bangor yn credu bod “’na ffordd o ddefnyddio’r AI yma mewn ffordd newydd".
Wrth gyfeirio at allu AI gyda’r iaith Gymraeg, dywedodd ei fod wedi “datblygu yn aruthrol o gyflym".
“Ers 2022, mae o [AI iaith Gymraeg] wedi datblygu yn aruthrol o gyflym – mi ymddangosodd o gyntaf o nunlle hefyd, heb unrhywun yn gwybod, wedi cynllunio neu ariannu unrhyw beth yn ei gylch,"meddai.
Ychwanegodd fod “pobl wedi arbrofi ‘tybed ydy hwn yn gallu siarad Cymraeg a oedd, mi oedd, felly mae pobl wedi bod yn arbrofi a wedi bod yn gwerthuso modelau ers hynny.
“A mae’n nhw’n gweithio’n well os ‘da chi’n sgwrsio efo nhw neu gofyn iddyn nhw gwestiynau yn y Gymraeg yn y dechrau, nid cychwyn yn Saesneg ac yna dweud ‘oh I’d like this answer in Welsh please'.”
