Huw Edwards yn ymateb i feirniadaeth wedi iddo gystadlu am y Goron

Huw Edwards yn ymateb i feirniadaeth wedi iddo gystadlu am y Goron

Gall cynnwys yr erthygl hon beri gofid i rai.

Mae actores amlwg a goroeswraig cam-drin rhywiol fel plentyn wedi beirniadu'r cyn-ddarlledwr Huw Edwards wedi i Newyddion S4C gael cadarnhad iddo gystadlu yng nghystadleuaeth y Goron eleni.

Wrth alw am edrych eto ar reolau cystadlaethau'r Eisteddfod, sydd yn caniatáu i ymgeiswyr gystadlu dan ffug-enw, dywedodd Sera Cracroft, sydd yn actores yn y gyfres Pobol y Cwm ac wedi siarad yn agored am ei phrofiad hi o ddioddef trais rhywiol fel plentyn, y byddai gweld Edwards yn ennill y gystadleuaeth a chael ei goroni ar lwyfan wedi bod yn "gatastroffig".

Ers i Sera Cracroft wneud ei sylwadau, mae Newyddion S4C wedi derbyn yr ebost isod gan Huw Edwards.

“Teyrnged i'm tad oedd y gerdd. Dim byd mwy na llai na hynny. Nid oedd gobaith yn y byd i mi ennill y gystadleuaeth ac fe wyddwn hynny. Roedd angen cywiro'r naratif gwenwynig a hybwyd gan y cyfryngau ddwy flynedd yn ôl.

“Nid cerdd oedd hi i'r Cymry Cymraeg cyfoglyd o hunan-gyfiawn - Sera yn eu plith - sy'n manteisio ar bob cyfle i gega yn ddifeddwl ar bob pwnc dan haul.

“Mae hi a'i thebyg yn rhy barod o lawer i anwybyddu effeithiau dinistriol afiechyd meddwl. Yn hynny o beth, maent yn driw i draddodiad papurau tabloid Llundain.

Image
Sera

(Mae Sera Cracroft wedi gweld ymateb Huw Edwards, ac yn fodlon i’r sylwadau gael eu cyhoeddi)

Derbyniodd Edwards ddedfryd chwe mis o garchar wedi ei ohirio am ddwy flynedd ym mis Medi 2024 wedi iddo bledio yn euog i dri chyfrif o wneud delweddau anweddus o blant. Cafodd hefyd ei orfodi i fod a'i enw ar y gofrestr troseddwyr rhyw am saith mlynedd.

Cyfaddefodd iddo gael mynediad at 41 delwedd o blant, gan gynnwys saith delwedd o'r math mwyaf difrifol.

Ddoe, ddiwrnod cyn seremoni'r Coroni yn Eisteddfod y Garreg Las, cyhoeddodd flog ar wefan Substack gan ddweud iddo "geisio ysgrifennu cerdd" am y tro cyntaf yn ei fywyd wedi iddo gael ei "ysbrydoli" gan destun y gystadleuaeth, "Adnabod".

Mae Newyddion S4C wedi derbyn cadarnhad heddiw i'r beirniaid werthuso'i gerdd, dan y ffugenw "Y Gelyn", a'i roi yn y trydydd categori.

'Siomedig'

Mewn cyfweliad heddiw, fe wnaeth yr actores Sera Cracroft, sydd wedi siarad yn agored am ei phrofiad hi o gael ei cham-drin yn rhywiol fel plentyn, fynegi ei sioc.

“Syndod ar deud y gwir, a hefyd yn siomedig iawn. Ma’ Huw wedi cael ei ffeindio’n euog o greu delweddau o blant bach, y rhai gwaetha’ fedra rhywun ei greu. I’r plentyn yna oedd yn y delweddau, mae o’n para am byth. Mae o’n be’ ma’ nhw’n galw ‘life sentence’.

"Mae cam-drin yn symud i rywbeth digidol yn gyflym iawn, dwi’m yn meddwl bod Huw yn sylweddoli pa mor erchyll ydy’r ffaith bod o wedi trio am y goron.

"Tasa fo wedi ennill y goron, ma’r ddelwedd o weld o’n cael ei goroni o flaen ei wlad yn mynd i frifo lot o oroeswyr.

"Falle bod modd i Huw bod yn mwy diymhongar a trio helpu bobol neu cyfrannu mewn rhyw ffor’ neu dysgu mwy am y troseddu mae o wedi cael yn euog ohono fo."

'Arfarnu'

Mae ymgyrchwyr eraill wedi beirniadu y cyn-newyddiadurwr am ddechrau ei flog.

Mewn cyhoeddiadau diweddar, mae wedi son am ei "atgasedd" at ei droseddau. Dywedodd hefyd y byddai ei ddedfryd wedi dod i ben erbyn Medi 16eg.

Fis diwethaf, cyhoeddodd flog dan yr enw "On hatred" lle dywedodd nad oedd yn "dreisiwr plant" ac mai ei drosedd oedd "clicio ar ddelwedd anfonwyd ataf gan rywun arall."

Mynnu mae Sera Cracroft, sydd yn dweud i sawl un arall gysylltu gyda hi wedi iddi hi siarad gyntaf am ei phrofiad personol. Mae'n credu'n gryf na ddylai Huw Edwards fod wedi cystadlu ac y dylai'r Eisteddfod Genedlaethol ailystyried eu rheolau.

"Tan i hyn ddigwydd, o'n i'n meddwl bod o'n syniad da ein bod ni ddim yn gwybod pwy oedd yn cystadlu," meddai.

"Ond mae'n rhaid i fi ddweud, dw'i dan deimlad rwan a dw'i yn meddwl yn yr achos yma, byddai wedi bod yn gatastroffig gweld o'n cael ei goroni tasa fo wedi ennill.

"Maen nhw wedi edrych ar y fedal ddrama ddwy flynedd, mae 'na bethau wedi codi fanna....os oeddan nhw'n gallu gwneud hynny, mae isho iddyn nhw edrych ar hwn hefyd."

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod Genedlaethol:

“Mae gennym broses yn ei le sy’n sicrhau nad oes neb, gan gynnwys y beirniad, yn gwybod ymlaen llaw  pwy sydd wedi cystadlu.

"Ar ôl bob Eisteddfod rydym yn cael cyfnod o arfarnu i sicrhau fod prosesau yn briodol - a fydd eleni yn ddim gwahanol.”

Os yw rhai o'r pynciau a drafodir yn yr erthygl hon wedi effeithio arnoch chi mae cymorth ar gael yma. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.