Dim her i arweinyddiaeth Starmer am y tro
Mae Syr Keir Starmer wedi pwysleisio eto na fydd yn ildio'r awenau, wrth i gyn-weinidog yn San Steffan gyhoeddi na fydd hi bellach yn herio'r Prif Weinidog ar gyfer arweinyddiaeth y Blaid Lafur.
Ond mae Catherine West yn annog aelodau seneddol Llafur i alw ar Syr Keir Starmer i osod amserlen ar gyfer ei ymddiswyddiad.
Dros y Sul, dywedodd Ms West y byddai'n herio'r Prif Weinidog brynhawn Llun, er mwyn rhoi pwysau ar aelodau'r Cabinet i gynnig rhywun i gydio yn yr awenau a disodli'r Prif Weinidog.
Ond yn ei araith fore Llun, mynnodd Syr Keir Starmer unwaith eto na fydd yn rhoi'r gorau i'w swydd.
Yn sgil hynny, dywedodd y cyn-weinidog yn y Swyddfa Dramor y bydd hi bellach yn casglu cefnogaeth o fewn ei phlaid er mwyn i'r Prif Weinidog osod amserlen ar gyfer ei ymddiswyddiad erbyn mis Medi.
'Rhy hwyr'
Mewn datganiad, dywedodd Ms West: “Rydw i wedi gwrando ar araith y Prif Weinidog y bore 'ma. Rydw i'n croesawu'r egni a'r syniadau. Ond rydw i wedi dod i'r casgliad bod yr araith y bore 'ma yn rhy hwyr.
“Mae'r canlyniadau ddydd Iau diwethaf yn dangos fod y Prif Weinidog wedi methu â chreu teimlad o obaith.”
Cynyddu mae'r dyfalu am ddyfodol Syr Keir Starmer ers yr etholiadau ddydd Iau pan ddaeth Llafur yn drydydd yng Nghymru a cholli grym am y tro cyntaf erioed yn hanes datganoli. Collodd Eluned Morgan ei sedd ar ol iddi arwain Llafur Cymru fel Prif Weinidog am bron i dair blynedd.
Yn Lloegr, collodd Llafur 1,500 o gynghorwyr yn yr etholiadau lleol yno, ac fe gollodd y blaid dir yn yr Alban hefyd.
Yn ei araith yng nghanol Llundain ddydd Llun, dywedodd Syr Keir Starmer ei fod yn cymryd “cyfrifoldeb” am y colledion ond mynnodd y bydd yn brwydro ymlaen.
Wrth ymateb i'r galwadau arno i ymddiswyddo, dywedodd fod rhai yn amau ei allu, a rhai o fewn ei blaid ei hun. Ond mynnodd y bydd yn profi eu bod yn anghywir.
Cyhoeddodd hefyd gyfres o fesurau yn cynnwys deddfwriaeth i wladoli'r cwmni British Steel a gwahardd unigolion adain dde eithafol rhag dod i'r Deyrnas Unedig ar gyfer gormydaith sydd wedi ei threfnu ddydd Sadwrn.
Nododd hefyd ei fod yn bwriadu rhoi'r DU “yng nghalon Ewrop.”
Mae llond dwrn o aelodau meinciau cefn Llafur wedi cefnogi'r Prif Weinidog yn gyhoeddus wedi ei araith, ond mae eraill yn parhau i alw arno i ymddiswyddo.