Dim cynlluniau i gyflwyno tollau ar yr M4
Mae'r Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth wedi awgrymu na fydd tollau'n cael eu cyflwyno ar draffordd yr M4 fel rhan o ymdrechion i leihau tagfeydd traffig.
Daw sylwadau Mark Hooper i ITV Cymru er iddo gefnogi'r syniad yn y gorffennol.
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol yn 2019 cyn iddo ddod yn Aelod o Senedd Cymru fe awgrymodd Mark Hooper AS y dylid codi tâl ar yrwyr am ddefnyddio'r M4 yn ystod oriau brig.
Ond mae'r Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth wedi dweud nawr nad yw'n "gweld cyflwyno tollau fel rhan o'r ateb i'r broblem".
Wythnos diwethaf fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynlluniau er mwyn taclo tagfeydd traffig ar yr M4 wrth ymyl Casnewydd a datblygu trydydd pont dros y Fenai.
“Ers gormod o amser, mae’r broblem hon wedi cael ei gwthio o’r neilltu, ond dydw i ddim am wneud hynny," meddai Mark Hooper.
“Felly does dim cynlluniau i gyflwyno tollau. Dyw hynny ddim hyd yn oed wedi codi mewn trafodaethau gyda gweinidogion nac unrhyw un arall.
“Ond mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr bod yna atebion effeithiol ar waith.”
Bwriad Llywodraeth Cymru yw adolygu 'atebion sy'n ymwneud a ffyrdd' er mwyn lleddfu tagfeydd traffig. Ymhlith y posibilrwydd mae gau rhai cyffyrdd ac ehangu twneli Brynglas.
Ond 'ateb dros dro' i'r broblem yw'r cynlluniau meddai rhai. Maent yn dweud bod nifer o gwestiynau heb eu hateb.
Twneli Brynglas
Ers bron i 40 mlynedd mae'r tagfeydd traffig ger twneli Brynglas wedi bod yn bwnc trafod. Mae mwyafrif o bobl yn cytuno bod angen ffordd fawr newydd i fynd i'r afael â'r broblem.
Mae adroddiad a gafodd ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru yn edrych eto ar y syniad o'r Llwybr Glas a gafodd ei drafod ddegawd yn ôl.
Byddai'r opsiwn hyn yn golygu adeiladu pontydd (flyover) ar hyd Ffordd Ddosbarthu'r De/A48, yn ogystal ag uwchraddio hen ffordd y gwaith dur yn Llanwern.
Mae'r adroddiad newydd yn awgrymu y byddai'r gwaith hwn yn arwain at ostyngiad o 6% mewn tagfeydd traffig.
Cwestiynu os y byddai yna unrhyw welliant gwirioneddol i'r sefyllfa mae'r beirniad. Maent hefyd yn dweud y byddai'r gwaith yn amharu yn sylweddol ar bobl.
Mae arweinydd Cyngor Casnewydd wedi dweud wrth ITV Cymru ei fod yn gwrthwynebu cynllun o'r fath. Fe gyfeiriodd at y datblygiadau sylweddol sydd wedi digwydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf o amgylch llwybr hen ffordd y gwaith dur yn Llanwern.
Yr ail gynnig mawr o ran ffyrdd yw ehangu twneli presennol Brynglas. Byddai'r cynllun yn cynnwys adeiladu twnnel newydd tua'r gorllewin er mwyn caniatáu tair lôn o draffig i bob cyfeiriad.
Yr amcangyfrif yw y byddai'r gwaith hwn yn costio £1.8 biliwn ac yn cymryd 12 mlynedd i'w gwblhau.
Yn y tymor byr, mae cynigion i gau cyffyrdd hefyd wedi cael eu trafod, gan gynnwys cau Cyffordd 27 yn gyfan gwbl a chau'r ffyrdd ymuno â'r draffordd tua'r dwyrain yng Nghyffyrdd 26 a 25.
Mae arweinydd Reform Cymru, Helen Jenner AS, wedi dweud fod y cynnig hwn yn golygu “symud traffig o un lle i'r llall… yn hytrach na datrys y broblem”.
Llun: ITV Cymru
