'Dim byd yn dweud pa gymorth sydd ar gael' i deuluoedd cleifion Alzheimer's
Mae teuluoedd sy’n gofalu am anwyliaid sydd â chlefyd Alzheimer yn dweud bod aros misoedd am ddiagnosis yn ei gwneud hi’n anodd gwybod pa gymorth sydd ar gael.
Mae Cymdeithas Alzheimer’s yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno targed o 12 wythnos ar gyfer diagnosis, gyda chynllun gofal a thriniaeth yn cael ei roi ar waith yn gyflym wedyn.
Yn ôl arolwg diweddar gan yr elusen, roedd bron i hanner y bobl gafodd eu holi wedi aros dros chwe mis am ddiagnosis.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "yn gwybod bod angen gwneud mwy i wella gofal dementia" ac bydd Strategaeth Ddementia newydd yn cael ei chyhoeddi yn 2027, fydd yn "pwysleisio pwysigrwydd diagnosis amserol."
Profiad Megan a Pete
Un sydd wedi profi’r her o ofalu am rywun ag Alzheimer ydy Megan Roberts Jones o Aberystwyth. Mae ei gŵr Pete yn byw mewn cartref gofal yn Llanrhystud ers pedair blynedd.
Ar ôl iddo gael diagnosis o Alzheimer’s, Megan oedd yn gofalu amdano yn eu cartref am flynyddoedd, ond bedair blynedd yn ôl, fe wnaeth hi’r penderfyniad anodd i’w symud i gartref gofal.
Mae Pete bellach yn gaeth i’w wely ac angen gofal cyson.
Er iddo gael diagnosis yn weddol gyflym, dywedodd Megan nad oedd hi’n sylweddoli ar y pryd pa gymorth oedd ar gael.
"O'dd e wedi bod yn y clinig cof yn yr ysbyty, a oedden nhw wedi ei ddeiagnosio, a rhoi ffurflenni i chi yn gweud am y salwch," meddai wrth Newyddion S4C.
"Roedd digon o bethau i sôn am y salwch ei hun, ond dim byd yn gweud pa gymorth oedd ar gael, a hwnnw o' ni eisiau fwyaf."
Dywedodd Megan fod y cymorth meddygol adeg diagnosis Pete yn dda, ond bod pethau wedi newid pan gafodd ei drosglwyddo i ofal cymdeithasol.
"O'n i'n siarad gyda 'Mrs Jones', un gweithiwr cymdeithasol un mis, a wedyn mewn rhyw ddeufis o'dd 'Mrs Evans' yn ffono fi, ac o'dd hi'n gofyn yr un cwestiynau ag oedd yr un arall wedi ei ofyn ddeufis yn gynt," meddai.
"Yna rhagor o ffurflenni a phethau. Roedd e'n ddi-ddiwedd.
"Doedd dim dilyniant i'w gael o gwbl yn beth dyle fod yn digwydd a'r gefnogaeth o'n i fod i'w gael."
Delio â chanser hefyd
Yng nghanol y gofal am ei gŵr Pete, mae Megan ei hun hefyd yn mynd drwy gyfnod anodd ac yn cael triniaeth canser.
"Mae'r gofal dwi wedi ei gael, dyw e ddim byd tebyg i'r amser gafodd Pete yn cael ei ddeiagnosio efo Alzheimer's," meddai.
"Ers bron i dair blynedd nawr, maen nhw wedi bod yn gofalu ar fy ôl i yn ffantastig.
"O'n i'n gorfod mynd yn erbyn pobol o hyd i gael beth oedd Pete i fod i'w gael, a hwnna oedd yn bwysig i mi, fod Pete yn cael popeth oedd e i fod i gael."
Yn ôl Cymdeithas Alzheimer's, roedd bron i hanner y bobl gafodd eu holi mewn arolwg diweddar wedi gorfod aros dros chwe mis am ddiagnosis.
Mae’r elusen yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno targed o 12 wythnos, gyda chynllun gofal a thriniaeth yn cael ei roi ar waith yn gyflym wedyn.
Dywedodd y llywodraeth: “Mae diagnosis cynnar yn hanfodol i bobl sy'n byw gyda dementia, ac rydym yn gwybod bod angen gwneud mwy i wella gofal dementia yng Nghymru.
“Fe wnaethom ymgynghori'n ddiweddar ar ein Strategaeth Ddementia Ddrafft, a byddwn yn cyhoeddi'r strategaeth derfynol yn gynnar yn 2027. Bydd hon yn pwysleisio pwysigrwydd diagnosis amserol.”
'Colli ei gwmni'
Ar ôl gorfod ffeindio’i ffordd ei hun drwy’r system, mae Megan bellach yn awyddus i rannu ei phrofiadau yn y gobaith o wneud y daith ychydig yn haws i deuluoedd eraill.
"Wi'n gweud wrthyn nhw - ydach chi yn sylweddoli bo chi'n cael treth y cyngor? Ydach chi'n sylweddoli bo chi'n gallu cael attendance fee?," meddai.
"Odych chi'n sylweddoli bo chi yn cael badge glas? O'dd neb wedi gweud wrthof i allen ni gael badge glas i Pete, ond mor gynted â ges i fy neiagnosio o'dd y tîm Macmillan yn gweud 'ie dyma chi fathodyn glas'."
Mae Megan yn ddiolchgar am y gofal mae ei gŵr yn ei gael yng nghartref preswyl Plas Gwyn yn Llanrhystud.
"Dwi ddim yn gorfod gwneud dim byd nawr, achos mae Pete mewn dwylo diogel fan hyn," meddai.
“Ma' fe'n salwch creulon iawn amser ma' fe'n dod i lle mae Pete nawr methu siarad, methu cyfathrebu, sa'm byd, dyw e ddim yn adnabod fi na neb arall, hwnna sydd waethaf.
"Jest colli ei gwmni fe yn fwy na dim.”