Dim bwriad i ddifa moch daear ‘ar raddfa fawr’ i fynd i’r afael â TB mewn gwartheg

Moch daear

Dyw Llywodraeth Cymru ddim yn ystryried difa moch daear “ar raddfa fawr” fel modd o fynd i’r afael â’r diciau mewn da byw, medden nhw ddydd Mawrth.

Serch hynny mae yna gynlluniau i “gael gwared” â rhai moch daear meddai'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd, Llyr Gruffudd.

Gallai hyn gynnwys profi, brechu a naill ai symud anifeiliaid oddi yno neu eu rhyddhau, os yw’r dystiolaeth yn cefnogi hynny,  meddai.

Bydd arolygon newydd o boblogaeth moch daear a gwaith maes yn ychwanegu at y dystiolaethm medden nhw. Bydd gwaith i ddeall rôl ceirw yn gwneud yr un peth.

"Mae TB buchol yn parhau i fod yn un o'r heriau iechyd anifeiliaid mwyaf difrifol sy'n wynebu Cymru. I deuluoedd sy'n ffermio, gall achos o TB olygu misoedd neu flynyddoedd o gyfyngiadau, ansicrwydd a dewisiadau anodd,” meddai’r gweinidog.

"Mae bron 96% o fuchesi yng Nghymru bellach heb TB. Fodd bynnag, o ystyried y cynnydd presennol, mae'n annhebygol y bydd Cymru'n sicrhau Statws heb TB swyddogol erbyn 2041. 

"Nid yw aros yn yr unfan yn opsiwn. 

Beth yw’r camau nesaf?

  • Bydd ffermwyr a’u milfeddygon yn gallu dewis sut i atal yr haint rhag lledaenu a sut i dynnu gwartheg risg uchel o’r fuches dros amser.
  • Bydd y llywodraeth yn cynnig opsiynau ar gyfer canfod yr haint yn gynt. Bydd y profion croen gorfodol yn parhau.
  • Bydd hefyd yn edrych ar ffyrdd diogel o symud gwartheg allan o fuchesi sydd o dan gyfyngiadau TB.
  • Bydd ffermwyr a milfeddygon yn cael gwell gwybodaeth am statws TB gwartheg a’r risg o haint, gan gynnwys wrth ystyried prynu gwartheg.
  • Bydd y llywodraeth yn datblygu ffyrdd o gynnig cymorth i ffermwyr a milfeddygon cyn i achos o TB godi mewn buches.
  • Nid yw’r llywodraeth yn bwriadu difa moch daear yn ddiwahân ar raddfa fawr.
  • Bydd yn datblygu opsiynau i fynd i’r afael â TB mewn bywyd gwyllt lle mae tystiolaeth o’r clefyd, gan gynnwys gwaith i ddeall rôl ceirw yn lledaeniad TB.

Bydd gwaith hefyd yn dechrau ar unwaith i roi cyngor Bwrdd y Rhaglen Dileu TB Buchol ar waith.

Ar yr un pryd, bydd y llywodraeth yn defnyddio ymchwil, gwaith maes, modelu a data am ledaeniad y clefyd i benderfynu pa gamau i’w cymryd a sut i fesur eu llwyddiant.

Bydd y llywodraeth yn adrodd ar y cynnydd yn hydref 2027, medden nhw.

‘Calonogol’

Dywedodd Undeb Amaethwyr Cymru eu bod nhw’n croesawu’r cyhoeddiad, a’i bod hi’n “hen bryd” newid y ffordd mae’r llywodraeth yn sôn am ddileu’r clefyd yng Nghymru.

Yn y deng mlynedd hyd at 2025, cafodd 22.3 miliwn o brofion TB eu cynnal ar wartheg, a chafodd dros 92,000 o wartheg eu difa, medden nhw.

Dywedodd Ian Rickman, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru ei fod yn bwysig mai “tystiolaeth” nid “agenda wleidyddol” sy’n llywio'r sgwrs.

“Fel undeb, rydyn ni wedi galw’n bendant am ystyried camau i fynd i’r afael â TB mewn bywyd gwyllt fel rhan o unrhyw strategaeth i ddileu TB buchol,” meddai.

“Mae’n galonogol gweld y bydd camau penodol, sy’n gymesur â’r risg, yn cael eu cymryd bellach i fynd i’r afael â TB mewn bywyd gwyllt lle mae’r dystiolaeth yn cefnogi hynny.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.