Dim angen cyfarfod arbennig o Undeb Rygbi Cymru bellach medd undeb ardal

Richard Collier-Keywood

Nid oes angen cynnal Cyfarfod Cyffredinol Eithriadol yn ôl undeb ardal wnaeth alw amdano yn y lle cyntaf.

Roedd Undeb Ardal Morgannwg Ganol (UAMG) wedi llwyddo i gael cefnogaeth digon o glybiau i gynnal y cyfarfod ar 15 Ebrill gyda thri chynnig oedd yn cynnwys pleidlais o ddiffyg hyder yng nghadeirydd Undeb Rygbi Cymru, Richard Collier-Keywood, a chadeirydd y bwrdd Rygbi proffesiynol, Malcom Wall.

Ond yn dilyn y cyhoeddiad diweddar y bydd Collier-Keywood yn rhoi’r gorau i’w rôl mae UAMG eisiau i’r cyfarfod gael ei ganslo.

Mae Mr Collier-Keywood wedi bod yn y swydd ers 2023 ond bydd yn gadael ar 16 Gorffennaf ar ôl penderfynu peidio â cheisio am ail dymor.

Ef yw'r ail ffigur nodedig i adael corff llywodraethu rygbi Cymru yn ystod yr wythnosau diwethaf ar ôl i Mr Wall hefyd adael ym mis Mawrth ar ddiwedd ei gyfnod.

Mae UAMG bellach wedi ysgrifennu at glybiau yn eu hysbysu eu bod yn teimlo nad oes angen Cyfarfod Cyffredinol Eithriadol ar hyn o bryd ac y byddant yn tynnu'r tri chynnig yn ôl. 

Dywedodd y llythyr gan yr undeb: "Gydag ymadawiadau cadeirydd URC a chadeirydd y BRP ynghyd â chydweithrediad posibl yn y dyfodol gyda bwrdd URC ar ein cynigion llywodraethu, rydym wedi cyflawni'r prif amcanion o'n hymgyrch ac rydym yn teimlo nad oes angen cyfarfod eithriadol ar hyn o bryd. 

"O ystyried hyn, rydym yn ymgynghori gyda bwrdd URC i drafod sut orau i reoli'r broses o’r cyfarfod eithriadol, ond mae'n debygol na fydd hyn yn ofynnol bellach yn ei ffurf bresennol gan ein bod yn ysgrifennu at dîm cyfreithiol URC i'w hysbysu ein bod yn tynnu pob un o'r tri chynnig yn ôl. 

"Byddwn nawr yn gofyn am gysylltiad adeiladol gyda bwrdd cyfarwyddwyr URC ar y newidiadau llywodraethu yr oeddem wedi eu cynnig, ac rydym yn credu bod llwybr cytûn ymlaen ar gael o ran etholiadau aelodau'r cyngor i fwrdd URC. 

"Bydd manylion pellach ar gael unwaith y bydd y trafodaethau hyn wedi dod i ben."

Roedd  Undeb Ardal Morgannwg Ganol wedi arwain y galwadau am y bleidlais o ddiffyg hyder. 

Maen nhw wedi eu lleoli o fewn rhanbarth y Gweilch. 

Mae gwrthwynebiad chwyrn i'r posibilrwydd y gallai Undeb Rygbi Cymru gael gwared â'r rhanbarth.

Mae’n fwriad gan Undeb Rygbi Cymru i ailstrwythuro’r drefn bresennol gan gwtogi niferoedd y rhanbarthau o bedwar o dri.

Ac mae pryderon bod yr Undeb yn ffafrio uno’r Gweilch a Chaerdydd.

Dywedodd URC eu bod nhw’n ymwybodol o’r llythyr a’u bod yn edrych ymlaen at gyswllt uniongyrchol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.