Diffyg croesfan ddiogel i blant tu allan i ysgol yn 'broblem fawr'

Newyddion S4C
Diogelwch Ffyrdd - Barri

Mae rhieni plant sy'n mynd i Ysgol Gymraeg Sant Curig yn Y Barri yn poeni am ddiogelwch ffordd tu allan i'r ysgol.

Yn yr ysgol gynradd, mae dros 400 o ddisgyblion, a'r mwyafrif yn croesi Heol y Coleg bob dydd. 

Mae rhieni ac athrawon yn poeni am ddiogelwch y disgyblion heb groesfan addas na goleuadau traffig.

Image
Ysgol Sant Curig

 Yn ôl pennaeth yr ysgol, Rhodri Jones, mae pryderon yn codi gan rieni yn ddyddiol.

 “Ni’n cael nifer o rieni yn dod i’r swyddfa yn y boreau yn cwyno am gyflymder y traffig” meddai.

 “Mae’r ffordd yn gul hefyd a ma’ ‘na sawl achos agos wedi dod ble mae perygl i blant a rhieni wrth groesi’r ffordd.

 “Mae’n broblem fawr i ni ar hyn o bryd a ry’ ni’n edrych am ddatrysiad os yn bosib a gweithio gyda’r cyngor i weld beth yw’r camau nesa i ni fel ysgol."

Image
Rhodri Jones
Rhodri Jones, Pennaeth Ysgol Gymraeg Sant Curig 

Dywedodd Cyngor Sir Bro Morgannwg bod “diogelwch plant sy'n teithio i'r ysgol ac yn ôl yn parhau i fod yn flaenoriaeth i'r Cyngor”.

Effaith ar ysgolion 

Yn dilyn ymddeoliad swyddog oedd yn gorchuwylio’r plant i groesi’r ffordd y llynedd, mae rhieni yn siomedig am benderfyniad y cyngor i beidio penodi swyddog yn ei le.

Yn ôl Mr Rhodri Jones, mae’r diffyg cyllid sydd gan gynghorau sir yn cael effaith ar ysgolion.

“Yn anffodus dwi’n meddwl fod bob cyngor yng Nghymru ar hyn o bryd yn dioddef yn ariannol mewn rhyw fodd a ni’n gweld yr effaith hynny yn yr ysgolion," meddai.

Mae cyllid yr ysgol yn gallu bod yn dynn a felly ni’n gofyn i’r cyngor ein cefnogi i sicrhau bod y plant yn gallu cyrraedd yr ysgol yn saff a diogel.”

Image
Diogelwch Ffyrdd

Mae dros 600 o bobl wedi arwyddo deiseb yn galw i wella diogelwch plant wrth groesi’r ffordd i’r ysgol.

Dywedodd un rhiant ei bod hi a’i phlentyn bron â chael eu taro wrth groesi’r ffordd un tro. 

“Fy mhryder mwya ydi os nad oes rhywbeth yn newid, mae hi am fod yn rhy hwyr a bydd damwain ddifrifol yn digwydd,” meddai Alison Southwell.

Image
Alison Southwell
Alison Southwell, Rhiant

Mae Alison yn poeni am ddiogelwch y plant sy’n mynd i’r ysgol ac yn galw am newid hirdymor.

“Rydw i eisiau newid sydd am bara am byth, rhywfath o groesfan i sicrhau diogelwch ein plant yn y dyfodol” meddai.

Yn ôl y cynghorydd tref lleol mae hi’n ffordd brysur iawn. 

“Ni 'di bod yn ffodus, ni ddim wedi gweld unrhyw ddamweiniau mawr yn digwydd ar y stryd ‘ma yn ddiweddar ond ma na lawer o beth mae pobl yn ei alw’n near misses” meddai Ian Johnson. 

Image
Cynghorydd Ian Johnson.
Y Cynghorydd Ian Johnson - Cyngor Tref Y Barri

“Os ydan ni’n ystyried y niferoedd syn dod i’r ysgol yn unig, mae hyn yn nifer fawr o gerbydau yn yr ardal, ond hefyd, mae'n ffordd cyswllt rhwng gogledd a de y Barri sy’n ychwanegu at nifer y ceir sy’n mynd heibio bob dydd," meddai. 

Mewn ymateb dywedodd Cyngor Bro Morgannwg: “Gan nad yw Patrolau Croesi yn wasanaeth statudol i awdurdodau lleol ei ddarparu, mae'r Cyngor wedi mabwysiadu dull o beidio â chyflogi swyddogion patrôl newydd pan mae swyddogion yn ymddeol neu'n gadael eu swyddi.” 

Ychwanegon nhw eu bod wedi “ystyried amgylchiadau penodol y safle a'r ystod o fesurau diogelwch ar y ffyrdd presennol sydd eisoes yn eu lle, gan gynnwys terfyn cyflymder 20mya.” 

“Rydym hefyd yn agored i ystyried gwelliannau hirdymor, fel cyfleusterau croesi ffurfiol, os daw cyllid ar gael”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.