Diabetes yn un o'r cyflyrau 'sy’n cael ei gamddeall fwyaf'
Mae Aelod o'r Senedd sy'n byw â diabetes yn dweud fod y cyflwr yn "un o'r rhai sy’n cael ei gamddeall fwyaf”.
Cafodd Sara Crowley ddiagnosis o diabetes math 1 pan yn blentyn, mae hi’n aml yn trafod ei phrofiadau o dyfu fyny a byw gyda’r cyflwr.
Yn ôl Sara mae angen i rieni, ysgolion ac arbenigwyr gydweithio i helpu plant sy’n byw gyda’r cyflwr o ddydd i ddydd.
“O edrych nol ar fy mhrofiad, ges i lot o gefnogaeth gan fy rhieni, nyrsys a’r ysgol," meddai.
"Mae’n rhaid i’r tri yna gydweithio ac addysgu eu gilydd. Mae gan y tri sgiliau gwahanol i helpu’r plentyn."
Yn ôl Sara mae llawer o bwysau ar rieni plant sydd yn derbyn diagnosis a mae angen y gefnogaeth arnynt wrth iddynt addasu.
“Weithiau mae diffyg dealltwriaeth o ran pa mor aml sydd angen bod o gwmpas os oes rhywbeth yn mynd o’i le, felly mae’n bwysig bod rhieni yn gwybod sut i gael y sgwrs gyda employers a bod mwy o hyblygrwydd," meddai.
“Chi moyn eich plentyn gael yr un cyfleoedd a phlant eraill, bod nhw’n gallu mynd i glybiau a chael plentyndod fel pawb arall."
'Modd rheoli'r cyflwr'
Fel Aelod o’r Senedd, mae Sara yn awyddus i ddangos bod modd parhau i fyw bywyd llawn gyda’r cyflwr.
“Am bod gen i’r platfform yma o weithio yn y senedd, dwi eisiau profi i bobl bod modd rheoli’r cyflwr tra’n gweithio a dwi’n gobeithio y gaf i’r cyfle i uwcholeuo diabetes math 1,” meddai.
Yn ddiweddar mae cyffur wedi dod ar gael i blant o wyth oed yng Nghymru a Lloegr i oedi symptomau’r cyflwr.
Mae Teplizumab yn fath o therapi imiwnedd sy’n oedi symptomau diabetes math 1 am o leiaf tair blynedd cyn bod angen triniaeth inswlin am oes.
Cam mae Diabetes UK yn ei groesawu gan iddo gynnig “rhyddhad i’r rheini sydd am dderbyn diagnosis gan roi amser gwerthfawr iddynt baratori i fyw gyda’r cyflwr”.
Yn ôl y sefydliad, eu ffocws yw i “sicrhau fod gan bawb sy’n gymwys fynediad at y driniaeth”.
Maen nhw hefyd yn “gweithio gyda’r gwasanaeth iechyd i sefydlu rhaglen sgrinio cenedlaethol ar gyfer y cyflwr".
Daw hyn wrth i rieni merch saith oed wedi disgrifio’r “sioc anferth” o ddarganfod bod gan eu merch diabetes math 1.
Yn saith oed, cafodd Efa o Glynderwen ddiagnosis o’r cyflwr ym mis Mehefin eleni ar ol i’w rhieni sylwi ei bod yn fwy sychedig na’r arfer a’i bod wedi colli pwysau.
“Oni wedi sylwi bod Efa yn anarferol o sychedig, wedd hi’n hapus yn ei hunan, dim ond bod hi’n gofyn am ddŵr drwy’r amser“ meddai Mam Efa, Gwen Griffiths," meddai.
O amau bod hynny’n symptom o ddiabetes, aeth Gwen âg Efa at y meddyg teulu.
“Amser atho ni at y doctor, gafodd hi brawf gwaed a phrawf dŵr, a’r ddau beth yn dangos bod ei lefelau siwgr hi drwy’r to.”
Yn ôl rhieni Efa, Gwen a Trystan Griffiths daeth y newyddion fel sioc.
“Wedd e’n sioc anferth achos doedd ddim hanes yn y teulu felly dath e mas o unman i ddweud y gwir,” meddai Gwen.
“Odda ni’n gwbod ei fod yn ddigon difrifol i newid bywydau ein teulu ni,” ychwanegodd Trystan.
Mae cyflwr diabetes math 1 yn golgyu nad yw’r corff yn gallu cynhyrchu hormon o’r enw inswlin sydd yn newid y siwgwr o’r bwyd rydym yn ei fwyta i egni ar gyfer y corff. Oherwydd hyn, gall lefelau siwgr yn y gwaed newid yn sydyn.
Yn ganwr opera proffesiyniol, roedd Trystan yn gweithio dramor pan gafodd Efa ddiagnosis. Dywedodd ei fod wedi cymryd amser iddod ddod i delerau gyda’r diagnosis ers iddo ddychwelyd.
“Nawr yw’r cyfnod mwyaf heriol i ni dwi’n credu achos ei fod yn newydd I ni ac yn newid fford o fyw i ni bob dydd,” meddai.
“Dwi rhyw fis tu ol i ble mae Gwen gan mod i ar ganol contract gwaith pan gafodd Efa ddiagnosis.
“O ni ddim yn sylweddoli faint odd e’n mynd i fwrw fi, amser o ni’n dod nol a gweld Efa yn cael hypos a sylweddoli pa mor ddifrifol yw e, bwrodd fi’n eitha galed os dwi’n hollol onesd.
“Pob dydd sy’n mynd heibio ti’n sylweddoli bod hyn under control a down ni i ben a hi. Ma Efa wedi delio mor dda”
'Cefnogaeth anhygoel'
Yn ôl y ffigyrau diweddaraf mae 4.7% o blant 0-15 oed yng Nghymru yn byw gyda diabetes, 96.6% o’r achosion hynny yn byw gyda diabetes math 1.
Mae cynnydd o 29.2% wedi bod yn nifer y plant yng Nghymru a Lloegr sy’n derbyn gofal gan wasanaethau diabetes pediatreg dros y ddegawd diwethaf.
Mae Efa yn cymryd pigiadau inswlin yn ddyddiol i geisio rheoli a thrin y cyflwr ac mae ganddi sensor ar ei braich sydd yn cysylltu i ap ar ffon yn dangos lefelau y siwgr yn ei gwaed.
Mae rhieni Efa yn dweud nad ydi’r cyflwr yn rywbeth mae rhywun yn ymwybodol ohono tan eich bod yn ei brofi eich hun.
“Ma lot o gefnogaeth mas ‘na ond falle bod e ddim yn rwbeth ma pobl yn ymwybodol o tan ei fod yn bwrw eich teulu chi,” meddai Gwen.
Er bod dod i arfer hefo’r diagnosis wedi bod yn anodd, mae rhieni Efa yn falch bod modd ei drin.
“Ni di cael cefnogaeth anghygoel, mae’r tim diabetes wedi bod yn gret," meddai Gwen.
"A hefyd y gefnogaeth yn y gymuned, teulu, ffrindiau, ma pawb wedi bod yn wych.
“Dydi Efa ddim digon hen I edrych ar ol ‘i hunan so ni di bod yn gweithio’n galed gyda’r ysgol iddyn nhw gael deall sut i ofalu ar i hol hi."