Dewis Huw Irranca-Davies yn Llywydd newydd ar y Senedd
Dewis Huw Irranca-Davies yn Llywydd newydd ar y Senedd
Mae Huw Irranca-Davies o'r Blaid Lafur wedi cael ei benodi yn Llywydd newydd y Senedd yn dilyn yr Etholiad yr wythnos diwethaf.
Mae Kerry Ferguson o Blaid Cymru wedi ei dewis fel Dirprwy Lywydd.
Fe gafodd Paul Davies ei enwebu fel Llywydd hefyd ond nid oedd ail enwebiad gan blaid arall felly roedd pleidlais i gadarnhau Huw Irranca-Davies, cyn Ddirprwy Brif Weinidog Cymru yn y llywodraeth flaenorol, yn unig.
Fe gafodd pleidlais gudd ei chynnal wedi i aelod Ceidwadol wrthwynebu symud ymlaen heb bleidlais.
Mae Huw Irranca-Davies yn olynu Elin Jones, sydd wedi bod yn Llywydd ers 2016.
Mae rôl y Llywydd yn debyg i rolau llefarwyr a llywyddion mewn seneddau ar draws y byd.
Y Llywydd sy'n cadeirio'r Cyfarfod Llawn, ac mae'n aros yn wleidyddol ddiduedd bob amser. Mae hefyd yn cadeirio Comisiwn y Senedd.
Dywedodd Huw Irrance-Davies ei fod wedi "dewis dod nôl i Gymru" ar ôl bod yn aelod o Sanedd San Steffan.
"Mi wnes i hynny am fy mod yn credu yn y Senedd," meddai.
"Mae ein Senedd Cymru yn dal i fod yn senedd ifanc iawn ond mae'n dal i dyfu o ran cryfder a hyder."
Fe enillodd Plaid Cymru 43 o seddi, gan olygu mai hi yw’r blaid fwyaf, ond nid yw wedi sicrhau mwyafrif, sef 49 o seddi.
Dywedodd arweinydd y blaid Rhun ap Iorwerth ddydd Sadwrn y bydd Plaid Cymru yn ceisio ffurfio llywodraeth leiafrifol yng Nghymru.
Cafodd Reform UK 34 o seddi, gyda Llafur Cymru yn drydydd â naw, y Ceidwadwyr Cymreig â saith, y Blaid Werdd â dwy, a’r Democratiaid Rhyddfrydol ag un.
Rhagor i ddilyn...