Deon Tyddewi yn camu o'r neilltu er mwyn caniatáu i olynydd ddatblygu cynllun ar gyfer y gadeirlan

Deon Tyddewi

Mae arweinydd gweinyddol Eglwys Gadeiriol Tyddewi wedi cyhoeddi ddydd Sul y bydd hi’n camu o'r neilltu er mwyn caniatáu i olynydd ddatblygu cynllun ar gyfer y gadeirlan.

Daw cyhoeddiad Deon Tyddewi, y Tra Barchedig Dr Sarah Rowland Jones, ar ôl cyhoeddi adroddiad ddiwedd mis Mai a oedd yn dweud bod angen "sefydlu llwybr clir" ar y gadeirlan tu hwnt i 2026.

Yn ôl casgliadau’r ddogfen, fe allai’r gadeirlan fynd i’r wal yn ariannol a methdalu o fewn dwy flynedd os na fydd cynllun ariannol gwell yn ei le.

Mewn datganiad ddydd Sul, dywedodd yr Eglwys Gadeiriol fod y Ddeon Sarah yn camu o’r neilltu ym mis Awst.

Bydd hi’n gwneud hynny er mwyn “trosglwyddo’r awenau i olynydd i lunio a chyflawni cam nesaf cynllun datblygu’r Eglwys Gadeiriol dros y pum i wyth mlynedd nesaf, sy’n ymestyn y tu hwnt i’w dyddiad ymddeol”.

Dywedodd y Ddeon Sarah ei bod am “fachu ar y cyfle sy’n cau’n gyflym cyn i mi droi’n 70” i ddychwelyd at waith offeiriadol mewn gweinidogaeth blwyfol am gwpl o flynyddoedd.

Roedd yr adroddiad mis Mai, a gomisiynwyd gan Esgob Tyddewi, y Gwir Barchedig Dorrien Davies, yn dweud bod dyfodol y gadeirlan fel canolfan addoli o bwys hanesyddol mewn perygl.

Yn ôl yr Esgob, mae angen “gweithredu ar frys” er mwyn mynd i’r afael â’r “heriau” hyn os yw’r sefydliad am barhau i gyflawni ei rôl.

Strategaeth ariannol

Ymysg ei argymhellion, mae’r adroddiad yn galw am gomisiynu adolygiad ariannol annibynnol, datblygu strategaeth ariannol pum mlynedd erbyn Ebrill 2026, a chryfhau trefniadau adrodd ariannol a gwneud penderfyniadau.

“Nid yw hyn yn ymwneud â’r esgob yn arfer awdurdod er ei fwyn ei hun,” meddai.

“Mae’n ymwneud â’r esgob yn dwyn baich cyfrifoldeb ac yn ei rannu â’r Deon, y Cabidwl, staff y Gadeirlan, a phobl Tyddewi.”

Roedd yr Esgob wedi penderfynu cynnal yr archwiliad, gan ddweud mai’r tro diwethaf i hyn ddigwydd oedd 15 mlynedd yn ôl.

Ei bwrpas, meddai, yw “cyfeirio ac annog y weinyddiaeth a sicrhau ymateb ymarferol a chywir i anghenion mawr yr Eglwys.”

Y prif bethau oedd caniatáu, ar ôl, fod ar ôl “dywedodd”, mewn perygl, a’r frawddeg olaf ond un oedd angen ei hailstrwythuro.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.