Abertawe: Cyhuddo dyn lleol o geisio llofruddio
Mae dyn 35 oed o Flaenymaes yn Abertawe wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio dyn arall yn y ddinas fore dydd Gwener.
Dywedodd Heddlu’r De eu bod nhw wedi cyhuddo Bokan Qadiri yn dilyn adroddiad am ddyn â chyllell yn ceisio ymosod ar ddyn arall ar Heol San Helen yn ardal Sandfields y ddinas.
Mae Qadiri wedi cael ei gyhuddo o geisio llofruddiaeth, bygwth lladd, a meddu ar arf ymosodol mewn man cyhoeddus.
Mae wedi cael ei gadw yn y ddalfa ac mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys Ynadon Abertawe fore dydd Llun.
Ychwanegodd y llu bod y ddau ddyn yn adnabod ei gilydd, a’i fod yn cael ei drin fel digwyddiad ynysig ac nad ydyn nhw’n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad.