Trefnwyr Tafwyl yn ymateb i gwynion am wrthod dyn oedd yn gwisgo fflag Palesteina
Trefnwyr Tafwyl yn ymateb i gwynion am wrthod dyn oedd yn gwisgo fflag Palesteina
Mae trefnwyr Tafwyl wedi ymateb i sylwadau eu bod nhw wedi gwrthod mynediad i berson oedd yn gwisgo dilledyn oedd yn gefnogol i Balesteina.
Mewn datganiad brynhawn dydd Sul dywedodd y trefnwyr mai “nad dyma bolisi Tafwyl” a'u bod nhw'n "flin am y sefyllfa".
Roedd rhai wedi dweud ar y cyfryngau cymdeithasol bod dyn yn gwisgo crys gyda baner Palesteina arno heb gael mynediad i'r digwyddiad.
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd Dafydd Oliver ei fod wedi ei "dowli mas" am wisgo crys-t "Rhyddid i Balesteina". Dywedodd ei fod yn disgwyl "ymddiheuriad llawn cyhoeddus".
Dywedodd Tafwyl mewn datganiad ar eu cyfryngau cymdeithasol: “Yn dilyn sylwadau a wnaed ar y cyfryngau cymdeithasol ddoe yn awgrymu na fyddai trefnwyr Tafwyl yn caniatáu baneri Palesteinaidd ar safle’r ŵyl, hoffem gadarnhau nad dyma bolisi Tafwyl.
“Fodd bynnag, yn unol â deddfwriaeth a chanllawiau perthnasol Llywodraeth y DU, ni chaniateir unrhyw faneri, baneri protest na hysbysfyrddau sy’n hyrwyddo neu’n cynrychioli sefydliadau neu grwpiau sydd wedi’u gwahardd o dan y gyfraith.
“Rydym yn ymwybodol na gafodd berson fynediad i'r safle er nad oedd ei eitem dillad yn waharddedig ac mae'r polisi gwisg wedi cael ei atgyfnerthu gyda'r asiantaethau perthnasol ac rydym yn flin am y sefyllfa yma.
“Oherwydd y risg uwch i ddiogelwch cenedlaethol, bydd pob ymwelydd yn destun archwiliadau bagiau a gwiriadau diogelwch wrth fynd i mewn i’r ŵyl. Mae’r mesurau hyn yn berthnasol i bawb ac yn cael eu rhoi ar waith er mwyn helpu i sicrhau diogelwch a lles pob un sy’n mynychu.
“Gofynnwn yn garedig i ymwelwyr gyrraedd mewn digon o amser a chaniatáu ar gyfer unrhyw oedi ychwanegol a allai godi o ganlyniad i’r gwiriadau diogelwch hyn wrth gynllunio eu taith i’r digwyddiad.
“Er mwyn helpu i gyflymu’r broses fynediad, mae gennym lonydd penodol ar gyfer ymwelwyr sydd â bagiau a lonydd ar wahân ar gyfer y rhai nad oes ganddynt fagiau.
“Diolch i bawb am eu cydweithrediad wrth helpu i sicrhau bod Tafwyl yn parhau’n ŵyl ddiogel a chroesawgar i bawb.”
Fe wnaeth yr ŵyl ddychwelyd i Gastell Caerdydd o Barc Biwt eleni, wrth iddi ddathlu ei phen-blwydd yn 20 oed.
Roedd tua 20,000 o bobl wedi mynd i ddiwrnod cyntaf yr ŵyl yng Nghastell Caerdydd, ond fe wnaeth hynny achosi oedi i rai wrth gael mynediad i'r maes.
Fe gyhoeddodd yr ŵyl am 20.00 ddydd Sadwrn ei bod wedi penderfynu cau'r giatiau “er mwyn diogelu pawb," ac fe ddywedon nhw ddydd Sul eu bod nhw wedi cyflwyno newidiadau wrth y fynedfa i gyflymu'r broses o wneud gwiriadau diogelwch.