Y Democratiaid yn obeithiol wrth i Americanwyr bleidleisio yn yr etholiadau canol tymor

Donald Trump

Mae'r Democratiaid yn gobeithio am don las o gefnogaeth wrth i Americanwyr fynd i bleidleisio yn yr etholiadau canol tymor ddydd Mercher.

Gyda phoblogrwydd yr Arlywydd Donald Trump ar lefel hanesyddol o isel, mae'r polau piniwn yn darogan fod y Democratiaid ar y blaen mewn nifer uchel o'r 218 o seddi fyddai eu hangen i drosglwyddo grym i'r blaid yn siambr isaf y Gyngres, sef Tŷ’r Cynrychiolwyr, am y ddwy flynedd nesaf.

Bydd y canlyniadau’n penderfynu pa blaid fydd â mwyafrif ym mhob un o ddwy siambr y Gyngres – Tŷ’r Cynrychiolwyr a Senedd yr Unol Daleithiau – am weddill tymor Mr Trump.

Mae gafael y Gweriniaethwyr ar y Senedd ychydig yn gryfach - gyda 53 sedd yn eu dwylo, a'r Democratiaid yn rheoli 45 sedd. Mae dau aelod annibynnol hefyd yn gefnogol i'r Democratiaid yn y Senedd.

Mae poblogrwydd Mr Trump ymysg y pleidleiswyr wedi disgyn i 37% erbyn hyn - fe ddechreuodd ei ail dymor fel arlywydd ar 50%.

Mewn arolwg gan NBC News rhwng 28 a 30 Hydref, roedd 52% o bleidleiswyr eisiau gweld y Democratiaid yn rheoli’r Gyngres, o gymharu â 45% oedd yn ffafrio’r Gweriniaethwyr.

Mewn araith yn Washington nos Fercher, dywedodd Donald Trump mai dyma'r etholiadau canol tymor pwysicaf "yn ein hoes ni".

Ychwanegodd: “Mae’r Blaid Ddemocrataidd wedi enwebu’r rhestr fwyaf eithafol a pheryglus o ymgeiswyr yn hanes America.

“Fel arfer, pwy bynnag yw’r arlywydd presennol, boed yn Weriniaethwr neu’n Ddemocrat, boed yn dda neu’n ddrwg, yn arlywydd da neu’n arlywydd gwych, am ryw reswm, dydy plaid yr arlywydd presennol ddim yn ennill yr etholiadau canol tymor. Ond fe wnaethon ni ymdrech fawr iawn y tro hwn.”

Wrth ymateb ar X, dywedodd arweinydd y Democratiaid yn y Senedd, Chuck Schumer: “Neges pathetig i gloi gan Donald Trump, wrth i’w ryfel anghyfreithlon barhau, ei lygredd gynyddu, a’r chwyddiant y mae ef wedi’i achosi barhau.”

Ynysig

Mae'r arlywydd wedi edrych yn fwy ynysig yn ddiweddar, gyda'i ryfel amhoblogaidd yn Iran yn arwain at gynnydd ym mhrisiau tanwydd Americanwyr cyffredin.

Mae hefyd wedi ei feirniadu am agosáu at Vladimir Putin yn y misoedd diwethaf, wrth i'r rhyfel yn Wcráin agosáu at ei phumed flwyddyn ar ddechrau'r flwyddyn nesaf.

Mae hanes diweddar America'n awgrymu bod angen pwyll wrth ddibynnu gormod ar ganlyniadau polau piniwn.

Yn groes i'r darogan fe lwyddodd Donald Trump i gipio grym yn etholiadau 2016 a 2024.

Fe allai'r canlyniad gymryd peth amser i gael ei gyhoeddi gan nad oes yr un dalaith yn cyhoeddi canlyniadau pleidleisiau drwy'r post cyn i'r blychau pleidleisio gau.

Yng Nghaliffornia, lle mae'r etholiadau'n cael eu cynnal bron yn gyfan gwbl drwy'r post, mae papurau pleidleisio sydd â stamp post diwrnod yr etholiad arnynt, ac sy'n cyrraedd hyd at wythnos yn ddiweddarach, yn cael eu caniatáu.

Ac os bydd y canlyniad yn agos iawn mewn rhai taleithiau, fe allai hynny arwain at oedi pellach wrth i'r llysoedd benderfynu ar unrhyw ganlyniadau sydd yn cael eu herio gan y naill ochr neu'r llall.

Taleithiau allweddol

Gallai llond llaw o etholiadau mewn taleithiau allweddol benderfynu pwy fydd yn rheoli Senedd yr Unol Daleithiau. Mae angen i’r Democratiaid ennill pedair sedd yn ychwanegol i sicrhau mwyafrif.

Michigan: Yma, mae’r Democratiaid yn ceisio amddiffyn sedd. Mae eu hymgeisydd, Abdul El-Sayed, yn wynebu’r Gweriniaethwr Mike Rogers.

Pe bai’r Democratiaid yn colli’r sedd, byddai angen iddyn nhw ennill mwy o seddi mewn mannau eraill i sicrhau mwyafrif.

Mae’r etholiad wedi cymryd tro annisgwyl ar ôl i’r Democrat Haley Stevens, a gollodd y frwydr i Abdul El-Sayed i fod yn ymgeisydd ei phlaid, roi ei chefnogaeth i’r ymgeisydd Gweriniaethol.

Ohio: Mae’r Democrat Sherrod Brown yn ceisio dychwelyd i’r Senedd drwy drechu’r Gweriniaethwr Jon Husted.

Cafodd Husted ei benodi i gymryd lle JD Vance ar ôl iddo ddod yn is-arlywydd.

Byddai buddugoliaeth i Brown mewn talaith lle enillodd Trump yn gyfforddus yn 2024 yn ergyd sylweddol i’r Gweriniaethwyr.

Maine: Mae’r seneddwr Gweriniaethol Susan Collins yn ceisio cadw ei sedd yn erbyn y Democrat Troy Jackson.

Mae hon yn un o brif dargedau’r Democratiaid. Pe bai Collins yn colli, gallai hynny fod yn ergyd fawr i obeithion ei phlaid o gadw rheolaeth ar y Senedd.

Gogledd Carolina: Mae’r cyn-lywodraethwr Democrataidd Roy Cooper yn wynebu’r Gweriniaethwr Michael Whatley.

Gyda’r seneddwr presennol, Thom Tillis, yn gadael, mae’r Democratiaid yn gweld cyfle pwysig i gipio sedd oddi ar blaid Trump.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.