‘Hynod annhebygol’ i gyrff cyhoeddus Cymru gyrraedd targed sero net erbyn 2030
Mae adroddiad newydd wedi datgan ei bod yn “hynod annhebygol” y bydd sector cyhoeddus Cymru yn cyrraedd yr uchelgais o fod yn sero net erbyn 2030.
Mae Archwilio Cymru wedi dweud bod pwysau ariannol ar gyrff cyhoeddus yn golygu bod datgarboneiddio bellach yn “flaenoriaeth is” iddynt.
Mae rhai sefydliadau hefyd wedi beirniadu’r uchelgais fel un “anghyraeddadwy” erbyn 2030.
Mae’r adroddiad yn dweud y gallai gostio o leiaf £2.3 biliwn i ddatgarboneiddio adeiladau cynghorau Cymru yn unig.
Yn 2019, fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddatgan argyfwng hinsawdd yng Nghymru, ac roedd eisoes wedi gosod ‘uchelgais cyfunol’ i’r sector cyhoeddus gyrraedd sero net erbyn 2030.
Mae sero net yn golygu bod yr allyriadau carbon y mae sefydliadau'n gyfrifol amdanynt yn cael eu cydbwyso gan fesurau i dynnu allyriadau o'r amgylchedd.
Fe wnaeth Archwilio Cymru adrodd ar gynnydd tuag at yr uchelgais cyfunol yn 2022.
Ond yn ei adroddiad diweddaraf, dywedodd y sefydliad: “Er bod llawer o enghreifftiau o newidiadau cadarnhaol, ar y cyfan, ni chynyddwyd y cyflymder fel yr ydym ni wedi galw amdano’n flaenorol.”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod am “barhau i gefnogi datgarboneiddio'r sector cyhoeddus” gan gydnabod ei bod yn “amlwg bod mwy o waith i'w wneud”.
‘Eisiau mwy o help’
Mae adroddiad Archwilio Cymru yn rhestru sawl rheswm pam mae'n credu bod yr uchelgais y tu hwnt i gyrraedd cyrff cyhoeddus.
Dywedodd fod angen rhagor o gymorth ar gyrff “i drosi strategaeth yn gamau gweithredu, ac nid yw Llywodraeth Cymru’n gwirio a ydynt yn cyrraedd y cerrig milltir datganedig.”
Ychwanegodd yr adroddiad fod “diffyg cynllunio ariannol”, gydag amcangyfrif y byddai datgarboneiddio adeiladau cynghorau Cymru yn unig yn costio o leiaf £2.3 biliwn.
Mae’r adroddiad hefyd yn nodi bod “rhai bylchau mewn data wedi cael eu llenwi gan sefydliadau”.
Roedd pryderon hefyd ynghylch ansawdd y data, yn enwedig mewn perthynas ag allyriadau cadwyni cyflenwi.
Mae “bylchau mewn sgiliau” hefyd wedi’u hamlygu, ac mae argymhellion yr adroddiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu arweiniad cliriach, gwella’r system adrodd a chefnogi cynllunio ariannol.
'Dyletswydd i wneud yn well'
Dywedodd Ann-Marie Harkin, Cyfarwyddwr Gweithredol ar gyfer Cyflawni Gwaith Archwilio: “Gallwn restru enghreifftiau cadarnhaol, ond nid oes digon o gynnydd wedi cael ei wneud ar y cyfan, ac mae arnom ddyletswydd i wneud yn well er mwyn cenedlaethau’r dyfodol.
“Ceir cwestiynau mawr ynghylch gwariant yn y dyfodol a sut y mae hynny’n cael ei flaenoriaethu pan nad yw datgarboneiddio’r sector cyhoeddus ond yn un rhan o’r hyn y mae ei angen i ymateb i newid hinsawdd.
“Hefyd, ynghylch sut y mae cyrff yn sicrhau’r sgiliau a’r capasiti y mae eu hangen arnynt i ymateb i’r her.
"Ac mae angen rhagor o waith i wneud yn siŵr bod y ffordd yr adroddir ar allyriadau carbon mor gywir â phosib.
"Nid yw Cymru ar ei phen ei hun o ran wynebu’r materion hyn, ond rhaid iddi wneud ei rhan yn llawn.”
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae sector cyhoeddus sy'n cyrraedd sero net yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.
"Rydym am barhau i gefnogi datgarboneiddio'r sector cyhoeddus er mwyn lleihau allyriadau a biliau ynni, a chryfhau diogelwch ynni.
"Mae'r uchelgais ar gyfer 2030 wedi ysgogi gweithredu ac arweinyddiaeth, ond mae'n amlwg bod mwy o waith i'w wneud o ran datgarboneiddio o fewn y sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt iddo.
"Byddwn yn amlinellu ein gweledigaeth a'n blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol o ran gweithredu ar yr hinsawdd yn y sector cyhoeddus maes o law, gan ystyried y canfyddiadau a'r argymhellion gwerthfawr a nodir yn adroddiad Archwilio Cymru."