Deiseb yn galw am glinig iechyd dynion yn y gogledd-orllewin
Rhybudd: Mae’r erthygl hon yn trafod hunanladdiad
Mae dynes o Fôn wedi lansio deiseb sy’n galw am sefydlu clinig iechyd dynion yng ngogledd-orllewin Cymru.
Ym mis Mawrth, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi agor hwb iechyd menywod ym mhob ardal bwrdd iechyd yng Nghymru, gan gynnig gwasanaethau menopos, atal cenhedlu ac iechyd mislif.
Ar ôl ymgyrch lwyddiannus i sefydlu’r hybiau, mae Delyth Owen o Lanfaelog wedi llunio deiseb sy’n galw am sefydlu clinig tebyg i ddynion yn Ysbyty Gwynedd.
Dywedodd Ms Owen bod y profiad o ddod o hyd i gorff dyn yn ei 40au yn dilyn ei hunanladdiad wedi ei tharo’n galed iawn.
"Mae’r trawma yn dal gyda mi hyd heddiw," meddai wrth Newyddion S4C.
"Roedd yn fab, yn ŵr, yn dad ac yn frawd, felly pam? Pam mae dyn yn cymryd ei fywyd ei hun pan fo cymaint o help, cariad a chefnogaeth o’i gwmpas?"
Yn dilyn hynny, dywedodd Ms Owen ei bod wedi dechrau ymchwilio i iechyd dynion a'u symptomau wrth iddyn nhw fynd yn hŷn.
"Yn raddol nes i sylweddoli fod llawer ohonynt yn debyg i’r menopos mewn merched a dyna pryd ddes i ar draws y term andropos – ac fe wnaeth popeth ddechrau gwneud synnwyr," meddai.
Yn ôl Ms Owen, mae dynion yn aml yn cael diagnosis anghywir, neu’n cael eu rhoi ar dabledi gwrth-iselder heb ystyriaeth am eu hiechyd hormonaidd.
Mae hi'n galw am greu clinig sy'n cynnig gwasanaethau andropos ym Mangor a fyddai'n gweithredu fel model i weddill Cymru.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod meddygon teulu yn cael eu hyfforddi i adnabod testosteron isel mewn dynion.
Mae Newyddion S4C wedi gwneud cais am ymateb gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.
Y menopos gwrywaidd?
Yn ôl y Gwasanaeth Iechyd, mae rhai dynion yn datblygu iselder, yn colli awydd rhywiol ac yn profi symptomau corfforol ac emosiynol eraill pan fyddant yn cyrraedd eu 40au hwyr neu ddechrau eu 50au, gyda'r andropos yn aml yn cael ei ystyried fel y "menopos gwrywaidd".
Ond mae'r term yn gallu bod yn gamarweiniol oherwydd ei fod yn awgrymu bod y symptomau'n ganlyniad i ostyngiad sydyn mewn testosteron yng nghanol oed - yn debyg i'r hyn sy'n digwydd yn ystod y menopos - pan nad yw hynny'n wir.
Er bod lefelau testosteron yn gostwng wrth i ddynion heneiddio, maen nhw’n gostwng yn raddol - tua 1% y flwyddyn - o tua 30 i 40 oed.
Gall diffyg testosteron sy'n datblygu'n ddiweddarach mewn bywyd weithiau fod yn gyfrifol am y symptomau, ond nid yw'r cyswllt yn glir iawn.
Un sy’n cefnogi’r ddeiseb ydy Aled Edwards, 40 oed o Fangor, a wnaeth geisio lladd ei hun chwe wythnos ar ôl genedigaeth ei ail blentyn yn 2021.
Roedd Mr Edwards yn dioddef o iselder ôl-enedigol, ond mae’n dweud ei bod wedi cymryd "amser hir" iddo gael y diagnosis hwnnw.
Yn hytrach na chael asesiad trylwyr o'i symptomau, dywedodd y tad i ddau o blant ei fod wedi derbyn tabledi gwrth-iselder a wnaeth waethygu ei symptomau, a hynny heb unrhyw rybudd am y sgil effeithiau posib.
Ar ôl derbyn cymorth, mae Mr Edwards bellach yn rhedeg menter o’r enw Sut Mae Dad? sy’n helpu tadau eraill, ac mae’n angerddol dros wella gofal dynion.
"Dim ond trwy Sut Mae Dad? a lot o ymchwil ydw i wedi dod i ddalld bod ‘na gymaint o betha fel dynion ‘da ni ddim yn cael ein dysgu amdan, fel post-natal depression a’r andropos," meddai.
"Mae ‘na lot o emphasis ar dynion i fynd i siarad am sut maen nhw’n teimlo, ond munud maen nhw’n gwneud hynny be’ sy’n digwydd ydy maen nhw’n cael yr ‘happy pills’ a dyna fo.
"Wedyn mae ‘na waiting list am tua dwy flynedd i gael gweld rhywun, ac mae’n ddwy flynedd o fod ar antidepressants ond ella dim dyna maen nhw ei angen."
Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, roedd bron i dri chwarter (74%) o’r holl hunanladdiadau yn 2023 yn ddynion, gyda dynion rhwng 50-54 oed â’r risg uchaf.
O ystyried yr argyfwng, mae’r gwyddonydd Robert Bonwick-Salisbury o Borth Swtan ym Môn, sy’n arbenigo mewn patholeg ddigidol, yn dweud bod angen gwell dealltwriaeth o’r andropos er mwyn sicrhau bod dynion yn cael y diagnosis a'r driniaeth gywir.
"Dwi’n credu bod o’n ymwneud â gwell ymwybyddiaeth mwy na dim byd arall," meddai.
"Byddai cael clinig neu ymwybyddiaeth gyda meddygon teulu i wneud yn siŵr nad ydyn nhw’n rhoi gormod o bresgripsiynau ar gyfer meddyginiaethau gwrthbryder neu wrthseicotig i bobl sydd ddim o reidrwydd eu hangen, y ffordd orau ymlaen."
Fel man cychwyn, mae Mr Bonwick-Salisbury yn dweud y dylai meddygon teulu gynnig prawf gwaed i ddynion er mwyn gwirio eu lefelau testosteron.
Mae Mr Edwards eisoes wedi cael prawf i wirio ei lefelau hormonaidd ac mae'n disgwyl am y canlyniadau.
"Be’ oedd yn agoriad llygad i fi oedd pan esi i’r GP a gofyn am brawf andropos, roedd yn rhaid i fi egluro i’r GP be’ oedd o," meddai.
"Ac oedd hynna’n dangos i fi faint bod angen i ni neud mwy am hyn, i siarad am hyn ac i godi ymwybyddiaeth achos os dydi’r GP ddim yn gwybod amdano fo sut yda ni’n disgwyl i dynion?"
Os yw canlyniadau prawf gwaed yn dangos fod claf yn dioddef o lefelau isel o destosteron, mae'r Gwasanaeth Iechyd yn dweud y byddant yn cael eu cyfeirio at endocrinolegydd, sef arbenigwr problemau hormonaidd.
Yna mae'n bosib y byddan nhw'n cael cynnig therapi amnewid testosteron (TRT) i godi'r lefel yn ôl i'r lefel arferol.
'Rhaid meddwl am y risg'
Mae Dr Steve MacVicar o Fiwmares wedi treulio 40 mlynedd yn gweithio fel meddyg teulu.
Er ei fod wedi ymddeol erbyn hyn, mae’n cefnogi’r ymgyrch i gael clinig andropos yn y gobaith y bydd yn codi ymwybyddiaeth o gyflyrau iechyd dynion.
"Y broblem ydy, dydy dynion ddim yn mynd at eu meddyg yn ddigon aml nag ar yr adegau cywir, ac mae ffermwyr yn gallu bod yn amharod i edrych ar ôl eu hiechyd," meddai.
Mae’n dweud bod angen gwell dealltwriaeth meddygol o beth sydd wrth wraidd symptomau dynion, gan fod diffyg tystiolaeth am beth yn union yw'r andropos a beth sy’n ei achosi.
"Mae symptomau sy’n gysylltiedig â lefelau testosteron isel yn cynnwys blinder, iselder a cholli cyhyrau sy’n digwydd pan rydych chi’n mynd yn hŷn," meddai.
"Ond mae’n anodd gwybod os ydi rhai o’r symptomau yn cael eu hachosi gan lefelau testosteron isel, neu bethau eraill fel magu pwysau, colli awydd rhywiol neu gamweithrediad erectile."
Dros gyfnod o dair blynedd, mae nifer y bobl sy’n derbyn presgripsiynau ar gyfer TRT wedi cynyddu’n sylweddol yn y DU, gyda nifer y presgripsiynau yn codi 135% rhwng 2021 a 2024.
Er bod Dr MacVicar yn cydnabod y gallai TRT fod yn fuddiol i ddynion sy'n dioddef o ddiffyg testosteron, mae’n dweud bod angen ystyried y risg.
"Nid yw therapi amnewid testosteron heb ei risgiau," meddai.
"Mae’n codi lefelau testosteron yn ôl i lefel arferol, ond mae hynny’n cynyddu’r risg o ganser y prostad ychydig - yn union fel menywod sydd ar HRT, mae rhywfaint o bryder am risg uwch o rai mathau o ganser benywaidd - felly mae’n rhaid ei fonitro’n agos iawn."
Mae’n dweud bod yr andropos yn "ddarn bach o bos enfawr" o ran cael pobl i godi ymwybyddiaeth o iechyd dynion.
"Yn y ddegawd nesaf, dwi’n gobeithio gweld gwell dealltwriaeth o heneiddio mewn dynion a menywod, a gwell dealltwriaeth o beth mae’r dystiolaeth yn ei ddweud ynglŷn ag os ydi unrhyw driniaeth hormonaidd ar gyfer dynion a menywod yn gallu helpu," ychwanegodd.
'Ymwybyddiaeth o destosteron isel yn rhan o hyfforddiant'
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae byrddau iechyd yn gyfrifol am gynllunio a darparu gwasanaethau yn seiliedig ar asesiad o anghenion eu poblogaethau.
"Mae ymwybyddiaeth o testosteron isel yn rhan o hyfforddiant ac asesu meddygon teulu, gyda datblygiad proffesiynol parhaus i sicrhau bod meddygon teulu yn gallu ymateb i bryderon cleifion."
Ychwanegodd y llefarydd: "Rydym yn datblygu cymorth iechyd meddwl mynediad agored ar yr un diwrnod i bobl dderbyn help pan fydd ei angen arnynt.
"Rydym hefyd yn buddsoddi mwy na £2 filiwn mewn ymchwil drwy'r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio, gyda ffocws penodol ar ddeall risg ymhlith dynion yn well."
