Y defnydd o AI yn gallu 'cael effaith enfawr’ ar fyd chwaraeon
Y defnydd o AI yn gallu 'cael effaith enfawr’ ar fyd chwaraeon
Mi allai'r defnydd o AI ym myd Chwaraeon gael effaith ‘enfawr’ a 'chadarnhaol' wrth geisio gwella perfformiad athletwyr, hyfforddwyr a thorri ôl troed carbon y sector yng Nghymru, yn ôl arbenigwyr yn y maes.
Ar draws Cymru mae Deallusrwydd Artiffisial yn cael ei gyflwyno gan nifer o glybiau ac athletwyr er mwyn crynhoi data ac awgrymu syniadau o sut i wella perfformiad.
Yn ôl un sydd wedi sefydlu ap sy’n crynhoi data clybiau pêl-droed mae AI yn "cynnig nifer o gyfleoedd i’r byd chwaraeon" ond "mae’n rhaid bod yn wyliadwrus hefyd" wrth ei roi ar waith.
Y gobaith yn ôl rhai sy’n gweithio ar brosiectau tebyg yng nghanolfan MSPARC yn y Gaerwen yn Ynys Môn, yw y bydd Deallusrwydd Artiffisial yn helpu rheolwyr ac athletwyr i wneud penderfyniadau’n haws am ddyfodol eu campau.
Un o sylfaenwyr ap Pelly, sydd yn raglen gyda’r nod o grynhoi data clybiau pêl-droed, ydi Tomos Owen, 26 oed o Fenllech sy’n dweud fod y cwmni rŵan yn bwriadu gwneud defnydd o Ddeallusrwydd Artiffisial ar draws yr ap i ehangu gallu a chapasiti.
“Dan ni’n buildio platfform i glybiau proffesiynol, hyd yn oed rŵan mae clybiau mwya’r byd, mae ganddyn nhw gymaint o ddata a gwybodaeth ac mae’n byw ar tua 10-12 platfform.
“Mae’n wastio lot o amser a lot o bres ac yn colli’r wybodaeth ac ar hynny lot o bres.
“Felly ‘da ni’n buildio platfform lle mae popeth mewn un lle”. Ychwanegodd Tomos Owen.
Mae gan y cwmni gytundeb erbyn hyn gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru.
Mae’r dechnoleg newydd yn gallu crynhoi gwybodaeth am gryfderau a gwendidau chwaraewyr, eu cytundebau, a’u hyfforddiant ac yna awgrymu strategaethau i unigolion sy’n gwneud penderfyniadau am ddyfodol y chwaraewyr a'r clybiau.
Fe aeth Tomos Owen yn ei flaen: “Dwi’n hyderus [mewn AI].
“Ond ‘dwi hefyd yn deall ac yn hollol ymwybodol o’r pethau mae pobl yn dweud sydd ddim mor dda fel mae’n defnyddio lot o egni”.
“Ond i ni fel cwmni Pelly, mae’n siawns rili da i ni allu helpu'r bobl sy’n defnyddio [yr ap] a hefyd neud mwy o jobs i bobl Cymraeg, busnesau Cymreig a ‘dan ni eisiau mynd a Pelly o Ynys Mon i weddill y byd."
Mae Deallusrwydd Artiffisial eisoes felly yn cael ei ddefnyddio ar draws y sector i adnabod athletwyr y dyfodol, i greu cynlluniau hyfforddi ac ennyn cefnogaeth cefnogwyr.
Ond yn MSPARC mae Deallusrwydd Artiffisial hefyd yn cael ei ddefnyddio i adnabod a thorri ôl troed carbon clybiau chwaraeon.
Mae 'Egni.AI' yn feddalwedd sydd wedi ei ddatblygu yn MSPARC i adnabod sut gall clybiau a chymdeithasau chwaraeon dorri allyriadau a hefyd arbed arian yn sgil hynny.
Un sydd wedi bod yn gweithio i ddatblygu’r cynllun ydi Dr Debbie Jones, Rheolwr Arloesedd Carbon Isel MSPARC.
“Y peth pwysig ydi bod o’n gallu casglu a gweithio allan pethau efo data ‘dan ni jyst ddim efo’r amser i wneud.
“Felly mae ‘na lot o ddata allan yna, a beth mae AI yn helpu ni wneud ydi gweithio trwy'r data a ffeindio’r wybodaeth 'dan ni angen i helpu ni wneud penderfyniadau”.
Ac yn ôl yr arbenigwyr, fe all hynny gynnwys creu polisi ailgylchu neu newidiadau trefniadau teithio o bosib.
Mae’n dweud unwaith mae’r Deallusrwydd Artiffisial yn cynnig syniadau ac atebion mae’n rhaid asesu hynny cyn gwneud penderfyniadau.
Wrth i waith barhau i ddatblygu’r feddalwedd mae'r arbenigwyr yn dweud fod y maes yn cynnig nifer o gyfleoedd i bobl, ac y gallai Cymry fod yn rhan ganolog wrth ei ddatblygu.